Mae Reform UK (rhai weithiau gelwi'r yn Diwygio DU yn Gymraeg[2]) yn blaid wleidyddol sy'n ymgyrchu dros y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE). Yn gyffredinol, fe'i disgrifir fel "poblyddol" (populist), ac fe'i cefnogir gan bobl sy'n rhwystredig gyda sut y gweithredwyd canlyniad Refferendwm 2016 gan Lywodraeth Lloegr ac sy'n dymuno gadael yr UE heb aros yn rhan o'r farchnad sengl na'r undeb tollau. Mae Reform UK yn portreadu ei hun fel rhywbeth sy'n canolbwyntio ar adfer sofraniaeth ddemocrataidd Prydain. Ei phrif bolisi yw i'r DU adael yr UE a masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd hyd nes y gellir gwneud cytundebau masnach ffurfiol.[3][4] Fe'i gelwid cyn 6 Ionawr 2021 yn "Blaid Brexit".

Ffeithiau sydyn Cadeirydd, Arweinydd ...
Reform UK
CadeiryddNigel Farage
ArweinyddNigel Farage
SloganChange Politics
for Good
Sefydlwyd23 Tachwedd 2018; 5 o flynyddoedd yn ôl (2018-11-23)
Pencadlys83 Stryd Victoria
Llundain
SW1 0HW[1]
Aelodaeth  (2019)increase 115,000
Rhestr o idiolegauGwrth Ewrop
Poblyddiaeth
Gwrth gyfyngiadau COVID
Lliw          Aqua, gwyn
Llywodraeth Lleol yn y DU
5 / 19,698
Gwefan
reformparty.uk
Cau

Sefydlu

Thumb
Nigel Farage, arweinydd Reform UK

Ymgorfforwyd cwmni o'r enw The Brexit Party Limited gyda Thŷ'r Cwmnïau ar 23 Tachwedd 2018.[5] Fe'i cyhoeddwyd yn ffurfiol ar 20 Ionawr 2019 gan gyn-lefarydd economeg UKIP Catherine Blaiklock, a fu'n gwasanaethu fel arweinydd cychwynnol y blaid.[6][7] Ar 5 Chwefror 2019, cafodd ei gofrestru gyda Chomisiwn Etholiadol y Deyrnas Unedig ar gyfer ymgeiswyr mewn unrhyw etholiadau yn Lloegr, yr Alban, Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.[8]

Ar ôl cyhoeddi sefydlu'r blaid, fe ddenodd Blaiklock feirniadaeth ar gyfer sylwadau cynharach ganddi a ddisgrifiwyd fel Islamoffobig.[9] Ymddiswyddodd fel arweinydd y blaid ar 20 Mawrth 2019 oherwydd ei negeseuon gwrth-Islam a gafodd eu dileu ers hynny ar Twitter, gan gynnwys ail-drydar negeseuon gan bobl asgell-dde gan gynnwys Mark Collett, Tommy Robinson a Joe Walsh.[10]

Senedd Cymru

Ar 15 Mai 2019, ymunodd pedwar Aelod Cynulliad Cymru a etholwyd neu a gyfetholwyd yn wreiddiol ar gyfer UKIP (Caroline Jones, Mandy Jones, Mark Reckless a David Rowlands) â Phlaid Brexit.[11] Penodwyd Reckless yn Arweinydd y grŵp Cynulliad. Dywedwyd wrth un AC, a etholwyd yn UKIP ond erbyn yr amser hwn yn eistedd fel annibynnol, Michelle Brown, na fyddai croeso iddi yn y blaid.[12]

Ar 18 Awst 2020 gadawodd Caroline Jones y blaid oherwydd ei fod hi'n yn anghytuno gyda pholisi’r blaid, o ddiddymu'r Senedd, a'i amnewid gyda Phrif Weinidog etholedig uniongyrchol sy'n atebol i Aelodau Seneddol Cymreig.[13]

Ar 16 Hydref 2020 gadawodd Mandy Jones a David Rowlands y blaid er mwyn ffurfio grŵp aelodau Annibynnol newydd yn y Senedd ar y cyd gyda Caroline Jones. Mae'r grŵp, Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio, yn ceisio adnewyddu'r Senedd yn hytrach nag ddiddymu.[14]

Ar 19 Hydref 2020, gadawodd yr aelod olaf o Blaid Brexit yn y Senedd, Mark Reckless, y blaid i ymuno â Gareth Bennett ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru.[15]

Yn Dachwedd 2020 dywedodd arweinydd y grŵp Annibynnol dros Ddiwygio yn y Senedd, Caroline Jones, fod nhw a'r "delerau ardderchog" gydag arweinwyr y Blaid Brexit/ Reform UK yn Lloegr.[16]

Fe wnaeth y blaid ennill ddim un sedd yn etholiad Senedd 2021 gan cael 1.57% o'r bleidlais etholaethol ac 1.06% o'r bleidlais rhanbarthol.[17]

Ail-frandio i Reform UK

Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Farage a Tice eu bod nhw wedi gwneud cais i'r Comisiwn Etholiadol i ailenwi Blaid Brexit i 'Reform UK', a dywedwyd y byddai'r blaid yn ymgyrchu ar blatfform a oedd yn gwrthwynebu cyfnod clo pandemig COVID-19 pellach a byddan't yn ceisio diwygio agweddau o'r Lywodraethu'r DU, gan gynnwys y BBC a Thŷ'r Arglwyddi.[18]

Ar 6 Ionawr 2021, cymeradwywyd newid enw'r blaid i Reform UK gan y Comisiwn Etholiadol.[19]

Fe wnaeth Nigel Farage sefyll lawr fel arweinydd y blaid ar 7 Mawrth. Dywedodd ar Trydar “fydda i ddim ynghlwm wrth wleidyddiaeth bellach, ond dw i ddim am fynd i ffwrdd o frwydro brwydrau mawr y dydd". Daeth y cadeirydd Richard Tice yn arweinydd.[20]

Ar 26 Mawrth 2021, cyhoeddwyd bod cyn-ASE Plaid Brexit, Nathan Gill, wedi dod yn Arweinydd Reform UK yng Nghymru.[21]

Mae nifer o ymgeiswyr Reform UK mynd i sefyll yn etholiad Senedd Cymru, gan gynnwys Mandy Jones (sydd yn aelod o'r grŵp Annibynnol dros Ddiwygio yn y Senedd) ar gyfer De Clwyd.[22]

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.