![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2f/Vista_Redeyef.jpg/640px-Vista_Redeyef.jpg&w=640&q=50)
Redeyef
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn ne-orllewin canolbarth Tiwnisia yw Redeyef (Arabeg: الرديف), a leolir i'r gorllewin o Gafsa ac i'r dwyrain o'r ffin rhwng Tiwnisia ac Algeria yn Gafsa. Mae'n gorwedd yng nghanol un o'r ardaloedd pwysicaf yn y byd am fwyngloddio ffosffad. Poblogaeth: 26,143 (2004).[1]
Mae'n ganolfan mwyngloddio ffosffad, a anfonir ar hyd y rheilffordd i Métlaoui, 53 km i'r dwyrain, gan fynd trwy geunentydd Selja. Agorwyd y mwynglawdd yn 1903, ac mae'n un o'r rhai hynaf yn Nhiwnisia; y perchnogion heddiw yw'r Compagnie des phosphates de Gafsa (CPG).
Bu protestiadau yn Redeyef yng ngwanwyn 2008. Roedd y mwyngloddwyr yn cwyno am lwgrwobrwyo, diweithdra, tlodi a diffyg triniaeth am afiechydon a achosir gan eu gwaith. Bu farw dau yn y protestiadau.[2] Parhaodd yr anghydfod. Bu protestiadau yn Redeyef yn ystod intifada 2010-2011.