Recordiau Cambrian
Cwmni recordiau o Bontardawe a sefydlwyd yn 1967 a bu'n recordio artistiaid Cymraeg a Chymreig mawr yr 1960au hwyr a'r 1970au / From Wikipedia, the free encyclopedia
Label recordiau Cymreig oedd Recordiau Cambrian (weithiau hefyd Label Cambrian neu Recordiau Cambria) neu Cambrian Records yn Saesneg. Lleolwyd y cwmni ym Mhontardawe, dan arweiniad Josiah Jones. Fe'i cysylltir gyda lledaeniad canu pop Cymraeg ysgafn o'r 1960au canol ymlaen. Sefydlwyd y cwmni yn 1967 a daeth yn ran o grŵp Decca yn 1974,[1] gyda recordiau i’w gweld ar label Cambrian tan tua 1980 pryd ddaeth y label i ben (Ymddengys i Cambrian gyhoeddi cofnodion o 1967 tan tua 1980).[2] Sefydlwyd y cwmni gan Josiah Jones ("Josh Cambria").[1] Lleolwyd hwy ar 18, Stryd Fawr, Pontardawe,[3] ac yn 1968 rhoddwyd eu cyfeiriad fel 5, Primrose Rd, Pontardawe.[4]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Daeth i ben ...
Enghraifft o'r canlynol | cwmni record, label recordio annibynnol |
---|---|
Daeth i ben | 1980 |
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Genre | Pop Cymraeg, cerddoriaeth boblogaidd, côr, Canu gwerin |
Cau