From Wikipedia, the free encyclopedia
Tywysog Monaco o 9 Mai 1949 hyd ei farwolaeth oedd Rainier III (Rainier Louis Henri Maxence Bertrand de Grimaldi) (31 Mai 1923 – 6 Ebrill 2005).[1][2] Yn ystod ei deyrnasiad, ymdrechodd Rainier i amrywiaethu economi Monaco oedd yn ddibynnol ar gamblo, gan hybu masnach a thwristiaeth yn y dywysogaeth, ac enillodd y llysenw "yr adeiladwr-dywysog".[3][4] Parhaodd statws Monaco yn llygad y byd fel "lle chwarae'r cyfoethog" ac roedd papurau newydd yn aml yn argraffu clecs am y teulu brenhinol, ond llwyddodd Rainier ar y cyfan i ddatblygu economi ei wlad ac ennill hoffter ei thrigolion.[5][6]
Rainier III, tywysog Monaco | |
---|---|
Ganwyd | Rainier Louis Henri Maxence Bertrand Grimaldi 31 Mai 1923 Monaco |
Bu farw | 6 Ebrill 2005 Monaco |
Man preswyl | Palas Tywysog Monaco |
Dinasyddiaeth | Monaco |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | teyrn, gwleidydd, pendefig |
Swydd | Tywysog Monaco |
Tad | Tywysog Pierre de Polignac |
Mam | Y Dywysoges Charlotte, Duges Valentinois |
Priod | Grace Kelly |
Plant | Caroline, tywysoges Hanover, Albert II, tywysog Monaco, Stéphanie o Fonaco |
Llinach | House of Grimaldi |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Croix de guerre 1939–1945, Medal y Seren Efydd, Urdd Aur yr Olympiad, Urdd y Sbardyn Aur, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Manuel Amador Guerrero, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, Urdd y Gwaredwr |
Roedd yn briod i'r actores Grace Kelly o 1956 hyd ei marwolaeth ym 1982, a chafodd tri phlentyn: y Dywysoges Caroline Louise Marguerite, y Tywysog Albert (Tywysog Monaco ers marwolaeth ei dad), a'r Dywysoges Stéphanie Marie Elisabeth.
Bu farw yn yr un wythnos â'r Pab Ioan Pawl II. Cyn ei farwolaeth, Rainier oedd y teyrn oedd ar ei orsedd am y cyfnod hiraf yn Ewrop a'r ail yn y byd i Bhumibol Adulyadej, brenin Gwlad Tai.[1][7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.