Radar
From Wikipedia, the free encyclopedia
System sy'n defnyddio tonnau i ddarganod gwrthrychau yw Radar sy'n acronym o RAdio Detection And Ranging.[1][2] Gall ddarganfod pellter, uchder, cyfeiriad a chyflymder y gwrthrych. Crëwyd radar yn wreiddiol i ganfod cychod a llongau ac yna awyrennau, taflegrau, cerbydau modur, ffurfiau tywydd megis trowyntoedd a hyd yn oed ffurf a siap y tirwedd. Edward George Bowen o Abertawe a fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar a fedrai ganfod awyrennau; bu'n arwain tîm o wyddonwyr yn 'Bawdsey Manor', Suffolk, ac yna yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn Ne Cymru Newydd.
Mae dysgl neu antena'r radar yn trosglwyddo pylsiau, tonnau radio neu ficrodonnau sydd yn y man yn bownsio'n ôl o unrhyw wrthrych sydd yn eu llwybr. Mae'r rhan o egni'r don yn bownio'n ôl i ail ddysgl neu antena sydd fel arfer wedi'i lleoli yn yr un lle a'r trosglwydddydd.
Datblygwyd radar yn gyfrinachol gan sawl gwlad ychydig cyn (ac yn ystod) yr Ail Ryfel Byd. Bathwyd y gair yn 1940 gan Lynges yr Unol Daleithiau.[3][4]
Mae'r defnydd modern o'r cyfarpar hwn yn eang iawn ac mae'n cynnwys: rheolaeth traffig, seryddiaeth, systemau amddiffyn gwledydd, systemau gwrth-daflegrau, monitro meteorolegol ac astudiaethau daearegol, darganfod targedau, a cheir radar tanfor i ganfod tirwedd gwely'r môr a llongau tanfor yn ogystal â'r radar ar gyfer archwilio'r gofod.