![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/62/CPT-TheoryOfComp-Binary-Search-Python.png/640px-CPT-TheoryOfComp-Binary-Search-Python.png&w=640&q=50)
Python (iaith raglennu)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Iaith raglennu lefel uchel ddeongliedig sy'n cael ei defnyddio ar gyfer rhaglennu pwrpas cyffredinol ywPython. Cafodd ei chreu gan Guido van Rossum a'i rhyddhau gyntaf yn 1991. Mae gan Python athroniaeth dylunio sy'n pwysleisio darllenadwyedd cod, yn arbennig trwy ddefnydd o ofod gwyn arwyddocaol. Mae'n darparu dyfeisiau sy'n galluogi rhaglennu eglur ar raddfa fechan a mawr. Yng Ngorffennaf 2018, camodd Van Rossum i lawr fel arweinydd y gymuned iaith ar ôl 30 o flynyddoedd.[1][2]
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | object-based language ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 20 Chwefror 1991 ![]() |
Yn cynnwys | integrated development environment ![]() |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint ![]() |
Gwefan | https://www.python.org/ ![]() |
![]() |
Mae gan Python system teip deinamig a rheolaeth cof awtomatig. Mae'n cefnogi patrymau rhaglennu niferus, gan gynnwys gwrthrych-gyfeiriadol, gorchmynnol, ffwythiannol a gweithdrefnol, ac mae ganddi lyfrgell safonau fawr a chynhwysfawr.
Mae dehonglwyr Python ar gael i nifer o systemau gweithredu. Mae CPython, gweithrediad cyfeirnodol Python, yn feddalwedd cod agored[3] a chanddi fodel datblygu yn seiliedig ar gymuned, fel bron pob un o'r gweithrediadau Python eraill. Mae Python a CPython yn cael eu rheoli gan Sefydliad Meddalwedd Python.