From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae pwls yn cyfeirio at unrhyw guriad neu ddirgryniad rhythmig.
Mewn meddygaeth mae pwls yn cyfeirio at ehangu a chywasgu rheolaidd y rhydweli sy'n cael ei greu gan y tonnau o bwysau a gynhyrchir wrth i waed cael ei dynnu o fentrigl chwith y galon pan fo'n contractio.
Gellir canfod y ffenomen yn rhwydd ar y rhydwelïau arwynebol, fel y rhydwelïau rheiddiol a charotid. Mae pob curiad pwls yn cyfateb i guriad y galon. Mae'r nifer arferol o guriadau pwls y funud mewn oedolyn yn amrywio o 50 i 100 ar gyfartaledd. Bydd ffactorau megis ymarfer corff, anaf, salwch ac adweithiau emosiynol yn effeithio ar ba mor gyflym â pha mor rheolaidd bydd curiadau'r pwls.
Pwynt pwls yw'r enw a roddir ar unrhyw un o'r safleoedd ar wyneb y corff lle gellir teimlo pwls yn hawdd. Y pwynt pwls a ddefnyddir mwyaf aml yw'r un ar y rhydweli rheiddiol yn yr arddwrn. Mae pwyntiau pwls eraill dros y rhydweli tymhorol o flaen y glust, dros y rhydweli carotid cyffredin ar lefel isaf y cartilag thyroid, a thros rydweli'r wyneb ar ymyl isaf yr ên.
Cyfraddau pwls arferol wrth orffwys, mewn curiadau y funud :[1]
newydd anedig (0–3 mis oed) |
babanod (3 – 6 mis) |
babanod (6 – 12 mis) |
plant (1 – 10 mlwydd oed) |
plant dros 10 mlwydd & oedolion gan gynnwys henoed |
oedolion athletig |
---|---|---|---|---|---|
99-149 | 89–119 | 79-119 | 69–129 | 59–99 | 39–59 |
Gellir defnyddio cyfradd y pwls i wirio lefel iechyd a ffitrwydd y galon. Yn gyffredinol mae cyfradd is yn well, ond gall bradycardia (y galon yn curo yn arafach nag arfer) fod yn beryglus. Mae symptomau curiad calon peryglus o araf yn cynnwys colli egni, gwendid a llewygu.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.