From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffrwyth planhigion o'r genws Capsicum sy'n aelodau o deulu'r codwarth, Solanaceae, yw'r pupur tsili.[1] Daw'r gair tsili o'r iaith Nahuatleg.[2] Defnyddir puprau tsili yn eang mewn llawer o fwydydd fel sbeis i ychwanegu gwres i brydau. Y sylweddau sy'n rhoi grym i buprau tsili pan fyddant yn cael eu llyncu neu'n cyffwrdd â'r croen yw capsaicin a chyfansoddion cysylltiedig a elwir yn capsaicinoidau.
Daeth pupur tsili o Fecsico.[3] Ar ôl y Gyfnewidfa Columbiaidd, lledaenodd llawer o gyltifarau pupur tsili ar draws y byd, a byddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer bwyd a meddygaeth draddodiadol.
Mae cyltifarau sy'n tyfu yng Ngogledd America ac Ewrop yn deillio o Capsicum annuum, ac mae ganddynt ffrwythau gwyn, melyn, coch neu borffor i ddu. Yn 2016, roedd cynhyrchiad byd-eang puprynnau tsili gwyrdd amrwd yn 34.5 miliwn tunnell, gyda Tsieina yn cynhyrchu hanner cyfanswm y byd.[4]
Pan gyrhaeddodd Christopher Columbus a'i griw y Caribî, hwy oedd yr Ewropeaid cyntaf i ddod ar draws Capsicum, gan eu galw'n “puprau” oherwydd bod ganddynt, fel pupur du o'r genws Piper sy'n hysbys yn Ewrop, flas sbeislyd, poeth yn wahanol i fwydydd eraill.[5]
Lledaenodd puprau tsili i Asia wedi i fasnachwyr Portiwgaleg, a oedd yn ymwybodol o'i werth masnach a'i debygrwydd i sbeisrwydd pupur du, hyrwyddo ei fasnach yn llwybrau masnach sbeis Asiaidd.[5][6][7] Fe'i cyflwynwyd i India gan y Portiwgaliaid tua diwedd y 15g.[8] Defnyddir puprau tsili yn gyffredin ar draws rhanbarthau amrywiol mewn bwyd Asiaidd yr 21g.[9][10]
Cynhyrchwyd 34.5 miliwn tunnell o bupur coch a 3.9 miliwn tunnell o bupur wedi ei sychu yn fyd-eang yn 2016.[4] Tsieina oedd cynhyrchydd tsilis gwyrdd mwyaf y byd, gan ddarparu hanner y cyfanswm byd-eang. Roedd cynhyrchiad byd-eang puprau wedi'u sychu tua nawfed o'r cynhyrchiad ffres, dan arweiniad India gyda 36% o gyfanswm y byd.[4]
Y sylweddau sy'n gwneud pupur tsili yn sbeislyd yw capsaicin (8-methyl-N-vanillyl-6-6-nonenamide) a nifer o gemegau cysylltiedig o'r enw capsaicinoidau.[11][12] Mae maint y capsaicin yn dibynnu ar y fath o bupur tsili ac ar yr amodau tyfu. Fel arfer mae puprau sy'n mynd heb ddŵr yn cynhyrchu codennau cryfach. Pan roir straen dŵr ar blanhigyn habanero, trwy amsugno dŵr isel er enghraifft, mae crynodiad y capsaicin yn cynyddu mewn rhai rhannau o'r ffrwyth.[13] Mae capsaicin yn cael ei gynhyrchu gan y planhigyn i'w amddiffyn rhag ysglyfaethwyr mamalaidd a microbau, yn enwedig ffwng fusariwm sy'n cael ei gario gan bryfed hemipteraidd sy'n ymosod ar rywogaethau arbennig o bupur tsili, yn ôl un astudiaeth.[14]
Mae dwysedd "sbeis" puprau tsili yn cael ei fesur mewn unedau gwres Scoville (SHU).
Mae'n annhebygol iawn fod perthynas rhwng enw'r planhigyn ac enw Chile, sydd ag etymoleg ansicr ac o bosib yn deillio o enwau lleoedd lleol.[15] Yn Sbaeneg fel i'y siaredir yn Chile, Colombia, Ecuador, Panama, Periw, Gweriniaeth Dominica a Puerto Rico, defnyddir y gair ají, sydd o darddiad Taíno i gyfieirio at bupur tisili. Mae'r gair pupur, oedd yn cyfeirio'n wreiddiol at y genws Piper, yn hytrach Capsicum, bellach yn gyfeirio at y ddau blanhigyn[16], ac mae'r un peth yn wir yn y Saesneg, gyda geiriaduron gan gynnwys Geiriadur Prifysgol Rhydychen (pepper, ystyr 2b) a geiriadur Merriam-Webster.[17] Defnyddir y gair pupur yn gyffredin hefyd yn y meysydd botanegol a choginio yn enwau gwahanol fathau o blanhigion tsili a'u ffrwythau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.