gwleidydd (1815-1855) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Pryse Loveden (ganwyd Pryse Pryse; 1 Mehefin 1815 – 1 Chwefror 1855) [1] yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Aberteifi rhwng 1849 a’i farwolaeth ym 1855.[2]
Pryse Loveden | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1815 |
Bu farw | 31 Ionawr 1855 Gogerddan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Pryse Pryse |
Priod | Margaretta Jane Rice |
Plant | Carine Agnes Loveden, Sir Pryse Loveden, 1st Bt. |
Ganwyd Loveden yn Woodstock, Swydd Rydychen, yn fab hynaf i Pryse Pryse, ei ragflaenydd fel AS Aberteifi, a Jane, ferch Peter Cavallier o Cleveland, Swydd Efrog; ei ail wraig. Gwasanaethodd ail fab Pryse Pryse (brawd Pryse Loveden), Edward Lewis Pryse fel AS Aberteifi o 1857 i 1868.
Roedd Pryse Pryse yr hynaf yn fab i Edward Loveden Loveden a Margaret Pryse, merch Lewis Pryse Gogerddan; etifeddodd ystâd Gogerddan gan ei nain ym 1798 a newidiodd ei gyfenw i Pryse. Ym 1849 etifeddodd Pryse Pryse yr ieuengaf ystadau ei daid tadol, Edward Loveden, yn Berkshire, gan newid ei gyfenw yn ôl i Loveden[3]
Priododd Margaret Jane merch Walter Rice, Llwyn y Brain, Sir Gaerfyrddin ar 14 Medi 1836. Bu iddynt un mab a dwy ferch. Ei fab oedd Syr Pryse Pryse, barwnig cyntaf Gogerddan o’r ail greadigaeth[4].
Arestiwyd Pryse Loveden yn Llundain ym mis Mehefin 1854 am fod yn feddw ac yn siarad â "Westminster Girl" (putain a lleidr)ym Mhiccadilly. Dirwywyd 5s. ond diddymwyd y ddirwy ar ôl iddo roi 10s. yn y 'poor box'. Doedd dim sôn am yr achos ym mhapurau Swydd Aberteifi.[5]
Roedd yn dirfeddiannwr ar ystadau Buscot a Eaton Hastings, Berkshire, ystâd Gogerddan, Ceredigion a thiroedd yn Woodstock, Swydd Rydychen ac Inglesham, Wiltshire.
Safodd Loveden yn enw'r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad yn etholaeth Ceredigion a achoswyd gan farwolaeth ei dad ym 1849. Enillodd yr isetholiad gan gadw’r sedd hyd ei farwolaeth ef ym 1855
Bu farw yn Llundain yn 39 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng nghladdgell y teulu yn eglwys Llanbadarn Fawr.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.