![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c6/NagoyaProtocol.svg/langcy-640px-NagoyaProtocol.svg.png&w=640&q=50)
Protocol Nagoya
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Protocol Nagoya ar Fynediad a Rhannu Buddiannau (ABS) yn gytundeb a luniwyd yn 2010 ac sy'n atodiad i Gonfensiwn 1992 ar Amrywiaeth Fiolegol (Convention on Biological Diversity; CBD). Ei nod yw gweithredu un o dri amcan y CBD: rhannu'n deg a chyfiawn buddion sy'n deillio o ddefnyddio adnoddau genetig, a thrwy hynny gyfrannu at gadwraeth a defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth. Mae'n ymrywmo partion i gymryd mesurau mewn perthynas â mynediad at adnoddau genetig, rhannu buddion a chydymffurfio.
![]() Glas: wedi arwyddo; gwyrdd: wedi llofnodi ond heb ei gadarnhau. | |
Enghraifft o'r canlynol | protocol, cytundeb amgylcheddol rhyngwladol ![]() |
---|---|
Dyddiad | 12 Tachwedd 2014 ![]() |
Rhan o | Y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol ![]() |
Lleoliad | Nagoya ![]() |
Mabwysiadwyd y protocol ar 29 Hydref 2010 yn Nagoya, Japan a daeth i rym ar 12 Hydref 2014. Erbyn Ebrill 2022 roedd wedi'i gadarnhau gan 137 o bleidiau, sy'n cynnwys 136 o aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.
Mae pryderon wedi'u mynegi y gallai'r fiwrocratiaeth a'r ddeddfwriaeth ychwanegol fod yn niweidiol i'r broses o fonitro a chasglu bioamrywiaeth, i gadwraeth, i'r ymateb rhyngwladol i glefydau heintus, ac i ymchwil.[1]