From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Mondragon Unibertsitatea yn brifysgol a leolir yn bennaf yn Arrasate (Mondragón) yn Gipuzkoa, Gwlad y Basg. Hi yw'r unig brifysgol gydweithredol y byd; hynny yw, sefydliad ble mae'r holl weithwyr hefyd yn berchnogion ac felly'n cael pleidleisio ar sut mae ei reoli.
Prifysgol Mondragon | |
---|---|
Sefydlwyd | 1997 |
Math | Prifysgol Cydweithiol |
Is-ganghellor | Jon Altuna |
Rheithor | Vicente Atxa |
Pennaeth | Iñigo Ucin |
Staff | 518 (2015) |
Israddedigion | 4,441 (2015) |
Ôlraddedigion | 758 (2015) |
Lleoliad | Arrasate (Mondragón), Gipuzkoa, Gwlad y Basg |
Campws | Arrasate, Oñati, Goierri, Hernani, Donostia, Bidasoa, Eskoriatza, Aretxabaleta, Bilbao |
Cyn-enwau | Escuela Politécnica Superior (1943-1997) |
Gwefan | https://www.mondragon.edu/en |
Sefydlwyd y Brifysgol fel coleg technegol a datblygodd i fod yn brifysgol yn ateb anghenion hyfforddi, R&D ac ymchwil y nifer fawr o gwmnïau cydweithredol yr ardal.[1]
Sefydlwyd yn wreiddiol fel yr Escuela Politécnica Superior ym 1943 gan offeiriad y dref Arrasate/Mondragon José María Arizmendiarrieta yn goleg technegol i hyfforddodd beiriannwyr ifanc.[2]
Roedd Arrasate/Mondragon yn dref o 7,000 o bobl ar yr adeg honno ac yn dal i ddioddef effeithiau Rhyfel Cartref Sbaen gyda thlodi enbyd. Bu'n rhaid i lawer o bobl Gwlad y Basg ffoi er mwy osgoi gormes Llywodraeth Sbaen.
Y dilyn llwyddiant sefydlu'r Escuela Politécnica Superior aeth José María Arizmendiarrieta ati i sefydlu nifer o fentrau cydweithredol yn y dref a bu'n llwyddiant mawr dros y degawdau dilynol. Yn 1956 sefydliwyd y fenter gydweithredol gyntaf gyda phobl leol oedd wedi bod yn y coleg technegol yn cynhyrchu tanau paraffin.
Ebyn heddiw mae Mentrau Cydweithedol Mondragon wedi tyfu i fod yn un o'r gorfforaethau mwyaf yn economi Sbaen yn cynnwys Laboral Kutxa (banc), Eroski (cadwyn o archfarchnadoedd), Fagor (cynnych peirianyddol) a Mondragon Unibertsitatea (prifysgol),[3]
Enillwyd statws prifysgol Mondragon Unibertsitatea ym 1997. Mae'r Brifysgol yn hunan cynhaliol yn hytrach na chael ei ariannu gan lywodraeth neu awdurdodau cyhoeddus, Yn swyddogol ystyrir yn sefydliad 'preifat'.
Mae 15% o elwau cwmnïau cydweithredol grŵp Mondragon yn mynd i'r Brifysgol a phrosiectau hyfforddiant eraill (y % mwyaf oddi wrth y banc cydweithredol Laboral Kuxta).[4][5]
Mae'r Brifysgol yn datgan ei bod yn ddielw, galwedigaethol, er budd cymunedol ac yn ateb anghenion busnesau a sefydliadau eraill. Mae'r staff a myfyrwyr yn dysgu gwerthoedd a sut i gymryd rhan a chydweithio gan ganolbwyntio ar Beirianneg, Rheolaeth Busnes, Entrenureship, Addysg, Cyfathrebu Cyfryngau, Mentrau Cydweithredol. Yn ddiweddar, agorwyd Canolfan Gwyddorau Gastronomeg gan fanteisio ar enwogrwydd y Basgwyr am fwyd a choginio da.
Nid oes gan y darlithwyr deitlau fel 'Yr Athro', neu 'Gadair' yn gwahanu eu statws fel mewn prifysgolion eraill.
Mae dewis meysydd ar gyfer ymchwil yn cael eu penderfynu'n dorfol ar sail budd cyffredinol yn hytrach na dewis yr unigolion sydd yn gwneud yr ymchwil. Yn gyffredinol mae budd y gymuned yn cael ei rhoi o flaen dymuniad unigol.
Mae pwyslais mawr ar hyfforddiant ymarferol a chysylltiadau gyda diwydiannau'n hytrach na chelfyddydau a’r dyniaethau pur.[6]
Mae myfyrwyr yn dilyn eu hastudiaethau trwy dair iaith fel rhan o'r model Mendeberri:[4]
Mae prifysgolion eraill Gwlad y Basg ond yn cynnig opsiwn Euskara neu Sbaeneg.
Yn 2015 roedd gan y Brifysgol y canolynol:[7]
Gall myfyrwyr fod yn rhan o ‘Alecop’ sef menter gydweithredol y myfyrwyr sy'n rhoi siawns iddynt ennill arian i dalu am eu hastudiaethau.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.