From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Ludwig Maximilian München (Almaeneg: Ludwig-Maximilians Universität München, LMU) a leolir ym München yn nhalaith Bafaria.
Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, comprehensive university, University of Excellence, prifysgol gyhoeddus |
---|---|
Enwyd ar ôl | Louis IX, Maximilian I Joseph o Fafaria |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | München |
Sir | München |
Gwlad | Yr Almaen |
Cyfesurynnau | 48.1508°N 11.5803°E |
Sefydlwyd Prifysgol Ingolstadt gan Ludwig IX, Dug Bafaria, ym 1472, ar batrwm Prifysgol Fienna. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, trodd Johann Eck y brifysgol yn ganolfan i'r gwrthwynebiad Catholig Rhufeinig yn erbyn Martin Luther. Bu'n ganolfan ddiwinyddol yn bennaf, dan ddylanwad dyneiddiaeth y Dadeni a'r Gwrth-Ddiwygiad, nes iddi ddod dan ddylanwad yr Oleuedigaeth yn ail hanner y 18g. Sefydlwyd ysgolion economeg a gwyddor gwleidyddiaeth yno ym 1799.[1]
Ym 1800, ar orchymyn Maximilian IV Joseph, Tywysog-Etholydd Bafaria, symudodd y brifysgol i Landshut ym 1800 ac fe'i ailenwyd yn Brifysgol Ludwig Maximilian, gan gyfuno enw ei hun gydag enw'r Dug Ludwig IX. Ym 1826, symudodd Ludwig I, Brenin Bafaria, y brifysgol i München. Sefydlwyd ysgol dechnegol, ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth, ym 1868.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.