![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ec/Coat_of_arms_of_Powys.svg/langcy-640px-Coat_of_arms_of_Powys.svg.png&w=640&q=50)
Powys Wenwynwyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Powys Wenwynwyn yn dywysogaeth Gymreig a fodolai yn ei therfynau o ail hanner y 12g hyd chwarter cyntaf y 13g. Er byrred ei pharhad, chwaraeai ran bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 1283 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1160 ![]() |
![]() | |
Rhagflaenydd | Teyrnas Powys ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ec/Coat_of_arms_of_Powys.svg/320px-Coat_of_arms_of_Powys.svg.png)
Yn 1160, ar farwolaeth Madog ap Maredudd, rhannwyd hen deyrnas Powys yn ddwy ran. Etifeddodd un o feibion Madog, Owain Cyfeiliog ran ddeheuol y deyrnas. Cantref Cyfeiliog oedd canolfan ei rym. Ar ei farwolaeth ef pasiodd y dywysogaeth i ddwylo ei fab Gwenwynwyn ab Owain (1195 – 1216), a daethpwyd i adnabod y deyrnas fel Powys Wenwynwyn mewn cyferbyniaeth â'r rhan ogleddol, Powys Fadog.
Mathrafal, hen lys brenhinoedd Powys yng nghantref Caereinion, oedd canolfan y dywysogaeth, ond yn ddiweddarach symudwyd y llys i'r Trallwng pan ochrodd Gwenwynwyn â brenin Lloegr. Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond bregus fu ei afael ac am y rhan fwyaf o'r amser bu Powys Wenwynwyn ym meddiant tywysogion Gwynedd. Gyda chwymp Gwynedd yn 1283 nid adferwyd Powys Wenwynwyn, a chael ei hymrannu'n fân arglwyddiaethau neu ddod i feddiant Coron Lloegr fu ei thynged.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/Flag_of_Powys.svg/640px-Flag_of_Powys.svg.png)