![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b4/Llwydiarth%252C_1794.jpg/640px-Llwydiarth%252C_1794.jpg&w=640&q=50)
Plasdy Llwydiarth, Llanfihangel-yng-Ngwynfa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Plasdy enfawr yng nghymuned Llanfihangel-yng-Ngwynfa oedd Plasdy Llwydiarth, neu Llwydiarth Hall fel y'i gelwid yn aml. Bu'n eiddo i deulu'r Fychaniaid am sawl canrif, tan i Ann Vaughan, merch Edward Vaughan, briodi Syr Watcyn Williams Wynn, a daeth y plasdy'n rhan o Ystad Wynnstay. Chwalwyd y plasdy yn y 1940au, ond mae'r gerddi wedi eu cofrestru gan Cadw, ac mae seiliau'r adeilad wedi'u cadw o dan yr wyneb.[1] Yn 1944 bu farw un o deulu'r Williams Wynn a bu'n rhaid gwerthu'r ystad i dalu'r dreth marwolaeth.
Math | plas ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfihangel-yng-Ngwynfa ![]() |
Gwlad | ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b4/Llwydiarth%2C_1794.jpg/640px-Llwydiarth%2C_1794.jpg)
- Ceir Plasdy Llwydiarth hefyd yn Llannerch-y-medd. Mae'r erthygl hon yn sôn am yr un ym Mhowys.
O amgylch y plas roedd parc enfawr, ble megid ceirw, sef Parc Llwydiarth, ac amgylchynwyd y parc â wal uchel i gadw'r ceirw rhag dianc. Gwelir rhan o'r wal heddiw y tu ôl i dŷ "Caepenfras" a safai pont dros afon Efyrnwy (gyferbyn â "Chuddig") a elwid yn "Bont y Ceirw".