![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7d/Aerial_image_of_Plas_Tan_y_Bwlch%252C_Maentwrog%252C_Parc_Cendlaethol_Eryri_National_Park%252C_Gwynedd%252C_Cymru_%2528Wales%2529_01.jpg/640px-Aerial_image_of_Plas_Tan_y_Bwlch%252C_Maentwrog%252C_Parc_Cendlaethol_Eryri_National_Park%252C_Gwynedd%252C_Cymru_%2528Wales%2529_01.jpg&w=640&q=50)
Plas Tan y Bwlch
adeilad rhestredig Gradd II* ym Maentwrog / From Wikipedia, the free encyclopedia
Plasdy sy'n dyddio nôl i 1634 yw Plas Tan y Bwlch (hen enw: Tanybwlch neu Bwlch Coed y Dyffryn[1]) sydd wedi'i gofrestru ers Ebrill 1965 gan Cadw fel adeilad Gradd II*; ceir nifer o adeiladau eraill ar y tir sydd hefyd wedi'u cofrestru. Mae'n cael ei ddefnyddio ers 1975 fel Canolfan Addysg gan Barc Cenedlaethol Eryri, sef y perchnogion. Credir mai Plas Tan y Bwlch oedd y tŷ cyntaf yng ngogledd Cymru i gael golau trydan o’i ffynhonnell trydan hydro ei hun, yn y 1890au.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | adeilad ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Maentwrog ![]() |
Sir | Maentwrog ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 56.6 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9462°N 4.0024°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Cau
Cyn agor fel Canolfan Astudio ac atyniad twristaidd, roedd Plas Tan y Bwlch yn gartref i rai o deuluoedd cyfoethocaf Gogledd Cymru ac yn eu plith rhwng 1789 a 1961, roedd teulu'r Oakleys. Ym 1969 prynwyd y tŷ a'r gerddi gan Gyngor Sir Meirionnydd.