Band gwerin Cymraeg o ardal Caernarfon From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Pigyn Clust yn fand gwerin o ardal Caernarfon a arbenigai mewn chwarae cerddoriaeth o naws Geltaidd. Cyhoeddodd y grŵp nifer o recordiau, yn cynnwys Otitis Media, Perllan ac Enaid . Yr aelodau oedd Ffion Haf, y lleisydd, o Lanwnda, chwaer yr awdures Angharad Tomos; Cass Meurig, ffidl a chrwth; Idris Morris Jones, yntau hefyd yn byw yn Llanwnda, ffidl; Endaf ap Ieuan, gitâr a bwswci; a Wyn Williams, gitâr a mandola.[1] Bu'r band yn perfformio o 1998 hyd 2007, ond daeth y grŵp i ben yn dilyn marwolaeth annhymig Ffion Haf yn fuan wedyn.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Daeth i ben | 2007 |
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 1998 |
Genre | Canu gwerin |
Ymysg eu caneuon mwyaf poblogaidd oedd Cân Merthyr, cân macaronig Cymraeg a Saesneg.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.