![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bd/Pierre_de_Fermat_%2528F._Poilly%2529.jpg/640px-Pierre_de_Fermat_%2528F._Poilly%2529.jpg&w=640&q=50)
Pierre de Fermat
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mathemategydd o Ffrainc oedd Pierre de Fermat (rhwng 31 Hydref a 6 Rhagfyr 1607[1] – 12 Ionawr 1665). Fe'i ganwyd yn Beaumont-de-Lomagne, yn ne-ddwyrain Ffrainc. Roedd yn gyfreithiwr yn Parlement de Toulouse. Cofnododd y rhan fwyaf o'i waith mathemategol mewn llythyrau at ffrindiau, yn aml heb fawr o brawf ffurfiol o'i theoremau. Bu farw yn Castres, de-ddwyrain Ffrainc.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Pierre de Fermat | |
---|---|
![]() Portread o Fermat gan François de Poilly (17g) | |
Ganwyd | 1607 ![]() Beaumont-de-Lomagne ![]() |
Bu farw | 12 Ionawr 1665 ![]() Castres ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Addysg | Bagloriaeth yn y Gyfraith ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, cyfreithiwr, barnwr ![]() |
Swydd | cyfreithiwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Fermat's principle, Theorem Olaf Fermat, Fermat's little theorem, Fermat point, Fermat number ![]() |
Prif ddylanwad | Diophantus of Alexandria, Gerolamo Cardano, François Viète ![]() |
Cau
Gwnaeth gyfraniadau pwysig tuag at ddamcaniaeth rhifau ac at greu'r calcwlws gwahaniaethol. Mae'n fwyaf adnabyddus am:
- Egwyddor Fermat: Mae pelydryn golau sy'n teithio rhwng dau bwynt yn cymryd y llwybr y gellir ei drosglwyddo yn yr amser byrraf.
- Theorem Olaf Fermat: Nid oes unrhyw dri chyfanrif positif a, b, ac c yn bodloni'r hafaliad an + bn = cn ar gyfer werth cyfanrif o n yn fwy na 2. Ysgrifennodd Fermat nodyn yn 1637 i ddweud ei fod wedi cael prawf dyfeisgar o'r theorem; fodd bynnag, nid tan 1995 y cyhoeddwyd prawf llwyddiannus gan Andrew Wiles.