Peter Hope Jones
Naturiaethwr dylanwadol Cymreig ail hanner yr ugeinfed ganrif / From Wikipedia, the free encyclopedia
Naturiaethwr o Gymro oedd Peter Hope Jones (21 Mai 1935 – 13 Gorffennaf 2020) a ffigwr dylanwadol yn adaryddiaeth Cymreig. Cyfunodd Jones gysactrwydd y gwyddonydd gyda theimladrwydd y bardd. Cyfunodd rhyw fyfyrgarwch moesol ym manylion pob testun neu faes fu dan ei sylw gyda'i fydolwg holistig athronyddol. Dylanwadodd ar genedlaethau o naturiaethwyr yn gymaint trwy ei bersonoliaeth a thrwy ei waith. Meddyliai am eraill pob amser, ond dangosodd trwy ei bersonoliaeth atyniadol bregusrwydd fu'n ei herio trwy ei oes yn sgil iselder. Mae teyrnged iddo yn y Guardian, 29 Gorffennaf 2020 .
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Peter Hope Jones | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mai 1935 Prestatyn |
Bu farw | 13 Gorffennaf 2020 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | naturiaethydd |
Cyflogwr |
Cau