Perthnasedd arbennig
damcaniaeth ffisegol a gynigwyd ym 1905 gan Albert Einstein / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn ffiseg, mae theori arbennig perthnasedd (special theory of relativity), neu berthnasedd arbennig yn fyr, yn theori wyddonol ynghylch y berthynas rhwng gofod ac amser. Yn nhriniaeth wreiddiol Albert Einstein, mae'r theori wedi'i seilio ar ddau wireb:[1][2]
- Mae deddfau ffiseg yn ddieithriad, yn union yr un fath, ym mhob ffrâm gyfeirio inertial (hynny yw, fframiau cyfeirio heb unrhyw gyflymiad).
- Mae cyflymder golau mewn gwactod yr un peth i bob arsylwr, waeth beth yw mudiant ffynhonnell y golau neu'r arsylwr.
Enghraifft o'r canlynol | damcaniaeth wyddonol, deddf ffiseg |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1905 |
Rhan o | damcaniaeth perthnasedd |
Dechrau/Sefydlu | 1905 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hyd nes i Einstein ddatblygu perthnasedd cyffredinol, gan gyflwyno gofod-amser crwm (neu ar ffurf cromlin) i ymgorffori disgyrchiant, ni ddefnyddiwyd yr ymadrodd "perthnasedd arbennig". Cyfieithiad a ddefnyddir weithiau yw "perthnasedd cyfyngedig"; mae "arbennig" yn golygu "achos arbennig" mewn gwirionedd.[3][4][5][6] Mae peth o waith Albert Einstein ar berthnasedd arbennig wedi'i adeiladu ar waith cynharach gan Hendrik Lorentz a Henri Poincaré. Daeth y theori yn ei hanfod yn gyflawn ym 1907.[7]