Perseverance (crwydrwr)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Crwydrwr ar y blaned Mawrth yw Perseverance gyda'r llysenw Percy[1][2]. Mae'r peiriant tua maint car mawr neu SUV ac fe'i gynlluniwyd er mwyn archwilio Ceudwll Jezero ar Mawrth fel rhan o Daith 2020 NASA i'r blaned. Adeiladwyd y crwydrwr gan y Jet Propulsion Laboratory ac fe'i lansiwyd ar 30 Gorffennaf 2020 am 11:50:00 UTC.[3] Cafwyd cadarnhad bod y crwydrwr wedi glanio’n llwyddiannus ar y blaned Mawrth ar 18 Chwefror 2021 am 20:55 UTC.[4][5]
Enghraifft o'r canlynol | Mars rover |
---|---|
Màs | 1,025 cilogram |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Mars 2020 |
Rhagflaenwyd gan | Curiosity |
Lleoliad | Jezero |
Gweithredwr | NASA |
Gwneuthurwr | Labordy Propulsion Jet |
Hyd | 3 metr |
Gwefan | https://mars.nasa.gov/mars2020/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan Perseverance ddyluniad tebyg i'w ragflaenydd, Curiosity, gyda uwchraddiad cymhedrol o galedwedd y crwydrwr hwnnw; mae'n cario saith offeryn sylfaenol, 19 camera, a dau feicroffon.[6]
Mae'r amcanion yn cynnwys chwilio am amgylcheddau yng ngorffennol Mawrth oedd yn gallu cynnal bywyd, chwilio am fywyd microbaidd posibl yn yr amgylcheddau hynny, casglu samplau o greigiau a phridd i'w storio ar wyneb y blaned, a phrofi cynhyrchu ocsigen o awyrgylch Mawrth i baratoi ar gyfer teithiau â chriw yn y dyfodol.[7]
Mae'r crwydrwr hefyd yn cario Ingenuity, hofrennydd bach arbrofol er mwyn archwilio y posibiliadau o hedfan cerbyd yn atmosffer y blaned Mawrth. Hedfanodd am y tro cyntaf ar 19 Ebrill 2021 gan wneud hwn yr ehediad pŵeredig cyntaf ar blaned arall. Rhaglennwyd y symudiadau o flaen llaw gyda'r hofrennydd yn gweithio ar ben ei hun. Yn y daith gyntaf, cododd 3m uwchlaw y ddaear, trodd 90 gradd, hofran am 20 eiliad cyn glanio.[8]