![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/Ptp_p32_img01.png/640px-Ptp_p32_img01.png&w=640&q=50)
Persbectif
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn celfyddyd graffig, mae persbectif (o'r Lladin: perspicere, "i weld trwy") yn gynrychiolaeth fras, fel arfer ar wyneb fflat (fel papur), o wrthrych fel ffordd, adeilad neu draciau rheilffordd, fel y gwelir ef gan y llygad. Ceir dwy nodwedd amlwg: yn gyntaf mae gwrthrychau sy'n bell i ffwrdd o'r llygad yn ymddangos yn llai; yn ail, mae dwy linell cyflin (cyfochrog) yn ymddangos fel pe taent yn dod fwyfwy at ei gilydd, y pellaf y maent o'r llygad.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b4/Entrega_de_las_llaves_a_San_Pedro_%28Perugino%29.jpg/640px-Entrega_de_las_llaves_a_San_Pedro_%28Perugino%29.jpg)
![]() | |
Math | tafluniad graffigol ![]() |
---|---|
Y gwrthwyneb | tafluniad cyfochrog ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3f/Llynnau_Cregennen_10_%28cropped%29.jpg/640px-Llynnau_Cregennen_10_%28cropped%29.jpg)
Astudiwyd perspectif mewn celf yn gyntaf gan arlunwyr a phensaeri Eidalaidd e.e. Filippo Brunelleschi, Masaccio, Paolo Uccello, Pietro Perugino, Piero della Francesca a Luca Pacioli.
O fewn perspectif lle ceir dau neu ragor o linellau syth, ceir un neu ragor o bwyntaiu lle daw'r llinellau cyflin at ei gilydd (yn ymddangosiadol felly), a elwir yn "ddiflanbwyntiau". Ceir hefyd "llinell orwel"[1] Ar adegau, fe'i ceir yn y llun, dro arall, fe'i cymrir yn ganiataol h.y. mae'r linell yn bodoli ym meddwl yr arlunydd ac yn ganllaw iddo wrth greu'r llun neu'r cynllun. Ar y linell hon, sydd ym mhellter eithaf y darlun, mae popeth yn eithriadol fach, bron nes ffurfio llinell neu orwel; fel y dywedodd y bardd Dewi Emrys (1881 – 1952) mewn englyn:
- Hen linell bell nad yw'n bod,
- Hen derfyn nad yw'n darfod.