![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3e/Perfedd_2.jpg/640px-Perfedd_2.jpg&w=640&q=50)
Perfedd (cwmwd)
cwmwd canoloesol yng ngogledd Teyrnas Ceredigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cwmwd canoloesol yng ngogledd Teyrnas Ceredigion oedd Cwmwd Perfedd. Roedd yn gorwedd yng nghantref Penweddig.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | cwmwd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Penweddig ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Genau'r Glyn ![]() |
Cyfesurynnau | 52.414°N 4.081°W ![]() |
![]() | |
Cau
- Erthygl am y cwmwd yw hon. Gweler hefyd Perfedd.
Ffiniai'r cwmwd â chymydau Genau'r Glyn i'r gogledd, gydag afon Clarach yn dynodi'r ffin, a'r Creuddyn i'r de, gan ffurfio canol (perfedd) cantref Penweddig. I'r dwyrain ffiniai â chantrefi Cyfeiliog ac Arwystli yn Nheyrnas Powys gyda bryniau Elenydd yn dynodi'r ffin. Wynebai ar Fae Ceredigion i'r gorllewin.
Prif ganolfan y cwmwd oedd Aberystwyth, a dyfodd yn ymyl hen ganolfan eglwysig Llanbadarn Fawr. Roedd yn cynnwys yn ogystal bryngaer hynafol Pen Dinas, ar yr arfordir ger Aberystwyth.