Perfagl fach
From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn blodeuol, bychan, bytholwyrdd ydy Perfagl fach sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apocynaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Vinca minor a'r enw Saesneg yw Lesser periwinkle. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Perfagl, Erllysg Lleiaf, Gwanwden Lleiaf, Llowrig Lleiaf ac Ysgarllys Bychan.
Vinca minor | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Gentianales |
Teulu: | Apocynaceae |
Genws: | Vinca |
Enw deuenwol | |
Vinca minor Carl Linnaeus | |
Mae'r planhigyn yma'n tyfu ym mhob rhan o Brydain. Gyda dail bytholwyrdd sy'n hirgrwn ac yn debyg i ledr. Mae'n blanhighyn sy'n tyfu i fyny gwrychoedd neu ochr llethrau cerrig. Blodau lliw porffor neu glas. Blodeup rhwng mis Chwefror a Mawrth.
Planhigyn Ewropeaidd ydy hwn yn wreiddiol, yn enwedig canol a de Ewrop.
Mae'n lledaenu fel carped o lwyn bytholwyrdd, a gall ar adegau ffafriol gyrraedd uchder o 40 cm (16 mod). Nid yw byth yn dringo. Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac yn 2–4.5 cm (0.79–1.77 mod) o hyd a 1–2.5 cm (0.39–0.98 mod) o led, yn loyw, gwyrdd tywyll gyda theimlad nid annhebyg i ledr.
Mae'r blodau'n unigol, yn fioled neu borffor tua 2–3 cm (0.79–1.18 mod) mewn diametr.