From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres deledu wedi ei hanimeiddio yw Peppa Pinc; mae'r fersiwn Gymraeg yn addasiad o'r gwreiddiol Peppa Pig, sydd yn Saesneg ac a grëwyd ac a gynhyrchwyd gan Astley Baker Davies ac E1 Entertainment. Hyd yn hyn mae dwy gyfres wedi cael eu darlledu a dechreuodd y drydedd gyfres Saesneg yn 2009.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu animeiddiedig |
---|---|
Crëwr | Neville Astley, Mark Baker |
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dechreuwyd | 31 Mai 2004 |
Genre | cyfres deledu i blant, cyfres deledu comig |
Cymeriadau | Peppa Pig |
Yn cynnwys | Peppa Pig, season 1, Peppa Pig, season 2, Peppa Pig, season 3, Peppa Pig, season 4, Peppa Pig, season 5, Peppa Pig, season 6, Peppa Pig, season 7, Peppa Pig, season 8 |
Dyddiad y perff. 1af | 31 Mai 2004 |
Hyd | 5 munud |
Cwmni cynhyrchu | Astley Baker Davies, eOne Family & Brands, Hasbro Entertainment |
Cyfansoddwr | Julian Nott |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Gwefan | https://peppapig.com, https://peppapig.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhaglen deledu i blant ydy Peppa Pinc, sy'n cynnwys cyfres o benodau 5-30 munud o hyd. Mae'n dilyn bywyd Peppa, hwch fach benywaidd anthropomorffaidd, ei theulu a'i ffrindiau. Mae pob un o'i ffrindiau yn famal gwahanol, pob un gyda'i enw'n cyflythrennu gyda'r math o anifail ydynt. Mae ffrindiau Peppa i gyd yr un oed a hi, ac mae Richard, ffrind George, sef brawd iau Peppa, yr un oed ag ef. Mae'r penodau'n tueddu i ddilyn digwyddiadau pob dydd megis mynychu cylch chwarae, nofio, ymweld a'u neiniau a'u teidiau, mynd i'r maes chwarae, reidio beiciau ac yn y blaen.
Mae'r cymeriadau i gyd yn gwisgo dillad, yn byw mewn tai, a gyrru ceir, ond maent yn dal yn berchen ar nodweddion yr anifeiliaid maent wedi eu seilio arnynt. Er enghraifft mae Peppa a'i theulu'n ffroeni fel moch yn ystod sgyrsiau ac yn hoff o neidio i byllau mwdlyd. Mae'r anifeiliad eraill hefyd yn gwneud synau wrth siarad, ac mae'r teulu Cwningod yn hoff o foron. Dim ond y cwningod sydd ddim yn byw mewn tŷ, maent yn byw mewn twll mewn bryn, ond mae gan y twll ffenestri a dodrefn.
Darlledwyd y gyfres wreiddiol gyntaf o 52 pennod pum munud ar sianel Five yn 2003, a darlledwyd yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf fel rhan o raglenni plant meithrin Tickle-U Cartoon Network ar 22 Awst 2005, gyda'r lleisiau wedi eu hail-ddybio gydag acenion Americanaidd.
Yn ystod y tymor cyntaf, mae'r adroddwr / taid yn gymeriad nas gwelwyd o'r blaen. Ers y seithfed tymor, cychwynnodd llawer o'r straeon yn y fersiwn animeiddiedig gyda thaid (sydd hefyd yn adroddwr y sioe) yn cyflwyno'r stori i'w wyrion, ac yna'n darllen y stori o lyfr.
Enillodd y gyfres Mummy Pig at Work wobr "The Cristal for best TV production" yng Ngŵyl Annecy International Animated Film Festival ym Mehefin 2005.
Enillodd Mummy Pig at Work hefyd wobr Animeiddio Plant Meithrin yn y 10fed BAFTA Plant ar 27 Tachwedd 2005.[1]
Ni wisgodd Peppa wregys yn y car yn y ddwy gyfres gyntaf, ond wedi derbyn sawl cwyn, penderfynodd y cwmni animeiddio Astley Baker Davies y byddai pob animeiddiad o hynny ymlaen yn cynnwys gwregys ac y buasent yn ail-animeiddio'r golygfeydd perthnasol yn y ddwy gyfres gyntaf i gynnwys gwregys.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.