![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/94/Ochr_ogleddol_Bryngaer_Penycloddiau_Hillfort_%2528north_side%2529%252C_Bryniau_Clwyd_%2528archaic%252C_colonial_spelling_%2527Clwydian_Range%2527%2529_23.png/640px-Ochr_ogleddol_Bryngaer_Penycloddiau_Hillfort_%2528north_side%2529%252C_Bryniau_Clwyd_%2528archaic%252C_colonial_spelling_%2527Clwydian_Range%2527%2529_23.png&w=640&q=50)
Penycloddiau
bryngaer Geltaidd, ger Moel Arthur, Bryniau Clwyd / From Wikipedia, the free encyclopedia
O holl fryngaerau Bryniau Clwyd, Penycloddiau (neu Pen-y-cloddiau) ydyw'r fwyaf gogleddol. Mae Llwybr Clawdd Offa'n croesi ei gopa. I'r dwyrain ohono mae Moel Plas-yw, ac i'r gogledd ohono saif Moel y Parc, gyda'i fast enfawr. Perthyn i Oes yr Haearn mae'r gaer hon, fel caer arall nid nepell ohoni, sef Moel Fenlli. Mae'r gaer yn 21 hectar o ran arwynebedd, sy'n ei gwneud y bumed mwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd.[1][2] Mae'r cloddiau sy'n amgylchynnu'r gaer yn 1.93 km kilometr o hyd.
![]() | |
Math | safle archaeolegol, bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 21 ±0.1 ha ![]() |
Uwch y môr | 440 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1987°N 3.3055°W ![]() |
Cod OS | SJ128676 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 156 metr ![]() |
Rhiant gopa | Moel Famau ![]() |
Cadwyn fynydd | Bryniau Clwyd ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL009 ![]() |
Mae Llwybr Clawdd Offa'n rhedeg drwy'r gaer o'r gogledd i'r de, drwy ddwy fynedfa hynafol a cheir peth treulio ar yr henebion gan effaith y cerdded. 53.2°N 3.31°W / 53.2; -3.31 (Pen-y-Cloddiau (bryngaer).)
Yn 1962 ac wedyn yn 2003 a 2003 gwelwyd olion tai crynion ar lwyfanau o fewn y gaer - tua 43 i gyd - ac yn 2006 a 2009 cafwyd cloddio archaeolegol yno gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (CPAT). Ceir siambr gladdu ar y copa, siambr sy'n perthyn i'r Oes Efydd[1] (tua 4,000 o flynyddoedd oed) ac sydd, felly'n, hŷn na'r fryngaer ei hun. Cafodd y gloddfa hon ei harchwilio gan CPAT yn 2008.[3]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: FL009.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.