bryn (207.1m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Penrhyn calchfaen i'r gorllewin o dref Llandudno, Sir Conwy, gogledd Cymru, a'i gopa'n 207 m (679 tr) uwchben lefel y môr yw Pen y Gogarth (neu'r Gogarth) cyfeiriad grid SH767833. Rhed y lôn doll a elwir Marine Drive oddi amgylch y Gogarth. Mae'r Gogarth yn ardal sy'n gyfoethog iawn ei holion cynhanesyddol, o Oes Newydd y Cerrig i Oes y Seintiau. Mae tramffordd Fictorianaidd yn dringo bron iawn i'r copa a cheir nifer o lwybrau cerdded ar hyd ei llethrau glaswelltog. Mae'r golygfeydd o'r copa yn wych ac yn ymestyn o fynyddoedd y Carneddau ac Eryri yn y de-orllewin i Fôn, Ynys Seiriol ac ar ddiwrnod braf Ynys Manaw yn y gogledd ac arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yn y dwyrain.
Math | copa, bryn, pentir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 207 metr |
Cyfesurynnau | 53.3333°N 3.8556°W |
Cod OS | SH7675483337 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 201 metr |
Rhiant gopa | Mwdwl-eithin |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Ei hen enw Cymraeg oedd Cyngreadr neu Cyngreawdr Fynydd. Mae'r bardd canoloesol Gwalchmai ap Meilyr yn cyfeirio ato yn y gerdd Gorhoffedd Gwalchmai:
Ceir safle cloddio 'Mwynfeydd Copr y Gogarth' sy'n dyddio'n ôl i'r Oes yr Efydd (tua 4000 o flynyddoedd yn ôl) ar Ben y Gogarth; yr adeg yma, roedd y diwydiant copr o bwysigrwydd arbennig gan mai copr yw'r prif fetel mewn efydd. Er fod tystiolaeth fod cloddio wedi para hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae yna dystiolaeth, bellach, y bu pobl yn mwyngloddio yma hefyd rhwng 1692 O.C. ac 1881 O.C. Gorchuddiwyd y siafftiau gyda phren a cherrig yn y 19g, ond ailagowrwyd y safle i'r cyhoedd yn 1987 ar ôl archwiliad archaeolegol o'r safle.[1]
Ceir pedair milltir o dwneli ac ogofâu wedi'u cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.
Ceir cytiau cynhanesyddol ym mhen gorllewinol y Gogarth. Yn y pen arall mae cromlech a elwir, fel nifer o rai eraill, yn 'Llety'r Filiast' yn sefyll. Mae Pen y Dinas yn fryn-gaer o Oes yr Haearn uwchben 'Nant Dedwydd' ("Happy Valley" y twristiaid). Ar ei gopa mae carreg hynafol 'Crud Tudno', neu 'Y Maen Sigl', sy'n fod i siglo pan bwysir arno ac a gysylltwyd â'r derwyddon gan rhai o hynafiaethwyr rhamantaidd y 19g.
I'r dwyrain o'r copa mewn cwm bach cysgodlyd saif Eglwys Tudno, eglwys wreiddiol y plwyf, a sefydlwyd yn y 6g, efallai, gan Sant Tudno. Is-law'r goleudy (gweler isod) mae'r ogof 'Parlwr Llech' ("The Hiding Cave") ac ynddi mae bwrdd a mainc carreg naturiol; fe'i gelwir hefyd 'Ogof y Mynaich' ac fe'i cysylltir â Maenordy'r Gogarth ('Abaty'r Gogarth'), Pen y Morfa, neu â'r Mostyniaid. Mae llwybr bytholwyrdd 'Llwybr y Mynachod' yn rhedeg o'r hen faenordy i'r copa.
Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 6 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 207 metr (679 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Mae praidd o eifr Cashmiraidd ar y Gogarth ers y 19g. Ceir nifer o blanhigion prin sy'n tyfu ar bridd galchfaen ac mae 'na nifer o adar y môr yn nythu ar y clogwyni, yn cynnwys y bilidowcar.
Ceir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Maes-y-Facrell ger copa'r Gogarth, safle 5 hectar sy'n cynnwys sawl planhigyn prin,
Fe welwch rhyw 13eg o enwau yn gysylltiedig ag anifeiliaid:- Llety'r Filiast, Llwyn yr Ychen, Hwylfa'r Ceirw, Ffridd y Wigod, Cilfin Ceirw, Bwlch Llwynog, Lloches yr Afr, Braich y March, Llwybr Mulod, Ogof Arth, Ogof yr Eliffant, Ogof Pryf Llwyd, Ffynnon Gaseg, Pen Llyffant, Ogof Colomennod a Maes y Facrell.[3]
Mae sawl esboniad am darddiad Maes y Facrell, y mwyaf tebygol yw 'Maes y Fagwyr Allt' (bryn caerog). Esboniad arall a roddir yw bod 'macrell' wedi ei newid o 'Marcellus'- enw cadfridog Rhufeinig.. Go annhebyg yw'r ystyr 'macrell' yn golygu'r pysgodyn, gan y buasai wedi golygu cario'r pysgod i ben y 'mynydd i'w sychu![4] Yr atystiad cynharaf o'r enw yw Kaye Mays y Vackell yn 1614-15 sydd yn agor y posibilrwydd llawer symlach mai Maes y Fachell (maes cilfachog) ydi'r tarddiad.
Mae nifer o ogofâu yn y clogwyni môr yn cynnwys 'Parlwr Llech', 'Ogof "Hornby"', 'Ogof Hafnant', 'Ogof Colomennod' ac 'Ogof Dutchman'.
Mae 13 o ffynhonnau wedi eu henwi a'u disgrifio yn Ffynhonnau'r Gogarth
Mae'r Gogarth yn boblogaidd iawn gan dwristiaid yn yr haf ac mae car cêbl Tramffordd y Gogarth yn dringo o'r dref i'r copa. Ar ben clogwyn 300 troedfedd uwch y môr mae hen oleudy, hanner ffordd rownd y "Marine Drive", oedd gynt yn perthyn i Fwrdd Harbwr a Dociau Lerpwl ond sydd bellach yn westy.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.