Patrick Grady
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Patrick Grady (ganwyd 5 Chwefror 1980) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ogledd Glasgow, yr Alban. Mae Patrick yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin, ble mae'n Llefarydd dros Ddatblygiadau Rhyngwladol.
Ffeithiau sydyn Geni, Cenedligrwydd ...
Patrick Grady | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Geni | (1980-02-05) 5 Chwefror 1980 (43 oed) Caeredin, Yr Alban |
---|---|
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Gogledd Glasgow |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | patrickgrady.scot |
Cau
Fe'i ganwyd yng Nghaeredin a'i fagu yn Inverness.[1] Gweithiodd fel rheolwr eiriolaeth i'r Eglwys Babyddol yn yr Alban, Llundain ac ym Malawi am rai blynyddoedd cyn 2015.
Ymunodd gyda'r SNP yn 1997 pan oedd yn 17 oed, ac ef oedd arweinydd yr ymgyrch dros Annibyniaeth yn ardal Kelvin, Glasgow yn ystod Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014.[2]