From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Pareidolia (/pærɪˈdoʊliə//pærɪˈdoʊliə/ parr-i-DOH-lee-ə) yn ffenomen seicolegol ble mae'r meddwl yn ymateb i stimulus, delwedd neu sain fel arfer, trwy ganfod patrwm cyfarwydd er nad yw'n bodoli mewn gwirionedd.
Enghreifftiau cyffredin yw delweddau ymddangosiadol o anifeiliaid, wynebau, neu wrthrychau mewn ffurfiannau cwmwl, y Dyn yn y Lleuad, tybiedig, Hen Wr y Lleuad, Cwningen y Lleuad, negeseuon cudd o fewn i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio ac yn cael ei chwarae am yn ôl neu a gyflymder cynt neu arafach nag arfer, a chlywed lleisiau mewn synau annisgwyl fel sŵn tymherwr neu ffan.[1]
Mae'r gair yn tarddu o'r geiriau Groeg para (παρά, "ger, wrth ymyl, yn lle [rhywbeth]" — sy'n golygu rhywbeth gwallus neu anghywir yn yr achos hwn - a'r enw eidōlon (εἴδωλον "delwedd, ffurf, siap" — bachigol eidos).
Mae amryw o hen arferion darogan Ewropeaidd yn cynnwys elfennau o ddehongli cysgodion sy'n cael eu taflu gan wrthrychau. Er enghraifft, mewn molybdomanaeth, mae siap yn cael ei greu ar hap trwy arllwys tin toddedig i ddŵr oer a'i ddehongli ar sail y cysgod mae'n ei daflu mewn golau cannwyll.
Mae person cysgod (hefyd yn cael ei adnabod fel ffigwr cysgod, bod cysgodol neu fas du) yn aml yn cael ei weld fel pareidolia. Mae darn o gysgod yn cael ei weld fel ffigwr byw, yn arbennig os ydynt wedi'u dehongli gan gredwyr yn y goruwchnaturiol fel presenoldeb ysbryd neu endid arall.[2]
Pareidolia yw'r hyn sydd, yn ôl rhai amheuwyr, yn achosi i bobl gredu eu bod wedi gweld ysbrydion.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.