Parasetamol
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae parasetamol, a elwir hefyd yn acetaminophen neu APAP, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin poen a thwymyn. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₈H₉NO₂. Fe'i defnyddir fel arfer ar gyfer rhyddhad rhag poen ysgafn i gymedrol. Mae'r dystiolaeth am ei werth i leddfu twymyn mewn plant yn ansicr.[1][2] Fe'i gwerthir yn aml mewn cyfuniad â chynhwysion eraill, megis mewn llawer o feddyginiaethau ar gyfer annwyd. Defnyddir parasetamol mewn cyfuniad â meddyginiaeth opioid hefyd, ar gyfer poen mwy difrifol fel poen canser a phoen ar ôl llawdriniaeth.[3] Fe'i defnyddir fel arfer trwy ei lyncu ond mae hefyd ar gael mewn ffurf i'w gweini trwy'r rectwm neu yn fewnwythiennol. Mae effeithiau'n para rhwng dwy a phedair awr.
Delwedd:N-Acetyl-p-aminophenol.svg, Paracetamol-skeletal.svg | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | acetamides, aromatic amide, phenol |
Màs | 151.063 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₈h₉no₂ |
Enw WHO | Paracetamol |
Clefydau i'w trin | Gorwres, poen, tueddiad at ddioddef o ffliw difrifol, nasopharyngitis |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Rhan o | response to paracetamol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae parasetamol yn ddiogel, fel arfer o ddefnyddio'r dosau a argymhellir.[4] Weithiau y bydd brechau croen difrifol yn digwydd fel sgil effaith cymryd parasetamol a gall dos rhy uchel arwain at fethiant yr afu. Ymddengys ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron.[5] Gall cleifion sy'n byw efo chlefyd yr afu ei ddefnyddio ond mewn dosau is.[6] Mae parasetamol wedi'i ddosbarthu fel poenliniarydd ysgafn.[7]. Nid oes ganddo weithgaredd gwrthlidiol sylweddol. Nid yw'n hollol glir a sut mae'r cyffur yn gweithio.[8]
Darganfuwyd parasetamol ym 1877.[9] Dyma'r feddyginiaeth fwyaf cyffredin ar gyfer poen a thwymyn yn Ewrop a'r Unol Daleithiau.[10] . Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef restr o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[11]. Mae parasetamol ar gael fel meddyginiaeth generig ac o dan enwau masnachol megis Anadin, Tylenol a Panadol ymhlith eraill[12] .
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.