From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Paolieg (Ffrangeg: Peillac) yn gymuned yn department Mor-Bihan (Ffrangeg: Morbihan), Llydaw. Mae'n ffinio â Les Fougerêts, Glénac, Saint-Vincent-sur-Oust, Saint-Jacut-les-Pins, Malansac, Sant-Gravez, Saint-Martin-sur-Oust ac mae ganddi boblogaeth o tua 1,857 (1 Ionawr 2021).
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,857 |
Pennaeth llywodraeth | Philippe Jegou |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 24.57 km² |
Uwch y môr | 68 metr, 0 metr, 82 metr |
Yn ffinio gyda | Felgerieg-al-Lann, Glenneg, Sant-Visant-an-Oud, Sant-Yagu-ar-Bineg, Malañseg, Sant-Gravez, Sant-Varzhin-an-Oud, La Gacilly |
Cyfesurynnau | 47.7133°N 2.2192°W |
Cod post | 56220 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Peillac |
Pennaeth y Llywodraeth | Philippe Jegou |
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Mae Paolieg wedi'i leoli yn nwyrain y Mor-bihan, tua deg cilomedr i'r gogledd-orllewin o Redon. Mae’n cael ei ffinio'n naturiol i'r gogledd gan yr afon Oud, ac i'r de gan yr afon Arz. Fe'i croesir gan y ffordd fawr o Malastred i Redon. I'r gorllewin, mae'n ffinio â chymuned Sant-Gravez ac i'r Dwyrain gan Sant-Visant-an-Oud. Mae'r pentref yn ganolog ac mae'n gorwedd 11 cilomedr i'r gogledd o Alaer, Gazilieg, Roc'h-an-Argoed a 44 cilomedr i'r dwyrain o Gwened.
Mae ei uchder yn 65 metr uwchlaw’r môr ac mae ei harwyneb yn 2420 hectar, gyda thua thraean yn cael ei amaethu, a'r gweddill o dan ddolydd, pren ac ati. Mae'r tir yn gyffredinol ffrwythlon ac yn cynhyrchu gwenith y bwch, rhyg, gwenith, ceirch a chnau castan[1].
Mae presenoldeb cromlechi a meini cerfiedig yn y gymuned yn brawf bod pobl wedi byw yn yr ardal am gyfnod maith. Mae’r cyfeiriadau cynharaf i enw’r plwyf i’w gweld mewn siarteri sy’n dyddio o’r 9g ac yn cael eu cadw yn Gartwlari Redon.
Roedd yr ardal yn cael ei reoli gan Iarll Paolieg o’r 9g ond nid oes cofnod o faint yr iarllaeth nac enwau a dilyniant yr arglwyddi. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd y parth i arglwyddi Rieux, a oedd yn ei gadw hyd at y Chwyldro Ffrengig.
Yn 1791, gwrthododd rheithor Paolieg, Monsieur Vaillant, tyngu’r llw sgismig, a oedd yn troi’r eglwys yn Ffrainc yn gorff sifil heb fod dan awdurdod y Pab. Gorfodwyd i’r rheithor ffoi’n alltud. Lladdwyd ei ficer, Monsieur Le Thiec, gan y Gweriniaethwyr. Cyhuddwyd gŵr o’r enw Monsieur Chedaleux o fradychu’r rheithor a'r ficer i’r awdurdodau ac fe gafodd ef ei lofruddio yn y dref ym mis Ionawr 1794.
Ym 1906 bu anghydfod arall yn y dref parthed y berthynas rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth. O dan ddeddf a basiwyd ym 1905 gwahanwyd yr eglwys a’r wladwriaeth a chrëwyd comisiwn i ymchwilio i gyfoeth yr eglwysi. Roedd y comisiwn i fod i archwilio eglwys Paolieg ar 7 Mawrth 1906. Amgylchwyd yr eglwys gan blwyfolion i geisio rhwystro’r comisiynwyr rhag cael mynediad. Danfonwyd 200 o filwyr a 3 brigâd o’r gendarmerie i geisio gwasgaru’r dorf a chael mynediad i’r eglwys. Wedi cael mynediad i’r eglwys trwy rym gwnaeth y comisiynwyr adolygiad brysiog a thila cyn penderfynu ffoi am eu bywydau.[2]
Mae Paolieg wedi'i gefeillio â[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.