![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/50/1918_flu_outbreak2.jpg/640px-1918_flu_outbreak2.jpg&w=640&q=50)
Pandemig ffliw 1918
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pandemig ffliw a ledodd i bron pob rhan o'r byd oedd pandemig ffliw 1918 neu'r ffliw Sbaenaidd. Achoswyd gan straen marwol a hynod o heintus o'r feirws ffliw A, is-deip H1N1. Nid yw data hanesyddol ac epidemiolegol, bellach, yn ddigonol i ganfod tarddiad daearyddol y feirws.[1] Oedolion ifanc iach oedd y mwyafrif o ddioddefwyr, er bod tarddiannau ffliw gan amlaf yn effeithio'r ifanc, yr henoed, neu gleifion sydd fel arall yn wan yn bennaf. Mae'r pandemig ffliw hefyd wedi'i gysylltu â'r tarddiant sydyn o enseffalitis lethargica yn y 1920au,[2] er bod ymchwil wedi methu darganfod unrhyw dystiolaeth o feirws, ffliw neu arall, yn gysylltiedig â'r afiechyd hwn.[3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/50/1918_flu_outbreak2.jpg/640px-1918_flu_outbreak2.jpg)
Parhaodd y pandemig o fis Mawrth 1918 i Fehefin 1920,[4] gan ledu i hyd yn oed yr Arctig ac ynysoedd anghysbell yn y Cefnfor Tawel. Yr unig ardal boblog na effeithiwyd oedd ynys Marajó yn aber afon Amazonas, Brasil.[5] Amcangyfrifwyd i 10,000 o bobl farw yng Nghymru ac i 50–100 miliwn o bobl gael eu lladd fyd-eang,[1][6] sef tua traean o boblogaeth Ewrop.[7][8][9] Amcangyfrifwyd i 500 miliwn o bobl, traean o boblogaeth y byd (tua 1.6 biliwn ar y pryd), gael eu heintio.[1]
Defnyddiwyd samplau meinwe o gleifion rhewedig i atgynhyrchu'r feirws er mwyn ei astudio. Oherwydd ffyrnigrwydd a gwenwyndra eithafol y straen mae doethineb y fath ymchwil yn ddadleuol. Ymysg casgliadau'r ymchwil hwn y mae dull y feirws o ladd trwy storm cytokine (gorymateb gan system imiwnedd y corff) sy'n egluro ei natur ddifrifol a phroffil oedran ei ddioddefwyr. Difroda gyrff oedolion ifanc gan eu systemau imiwnedd cryf, tra bo systemau imiwnedd gwanach plant ac oedolion canol-oed yn achosi llai o farwolaethau.