Pan-geltiaeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad a ffordd o feddwl o blaid annog cyfnewid diwylliannol a gwleidyddol rhwng y gwledydd Celtaidd yw pan-geltiaeth[1] neu oll-geltiaeth[2]. O ddiwedd y 18fed ganrif, fe ddatblygodd ochr yn ochr â rhamantiaeth a'r Dadeni Celtaidd.
Er nad oedd un "genedl" geltaidd yn yr henfyd, erbyn heddiw mae Iwerddon, yr Alban, Cymru, Cernyw, Llydaw ac Ynys Manaw yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion i'r Celtiaid.