Pabell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cysgodfa sydd wedi eu wneud allan o ddefnydd sy'n gorchuddio fframwaith o bolion neu raff yw pabell.[1] Gall pebyll bychain sefyll ar ben eu hunain neu cael eu clymu i'r llawr. Caiff pebyll mwy eu clymu i'r ddaear gyda rhaffau wedi eu clymu i begiau pabell. Defnyddiwyd pebyll fel cartrefi symudol gan bobl nomadig i gychwyn, defnyddir hwy yn aml ar gyfer gwersylla hamddenol a llochesau dros dro erbyn heddiw.[2]