mynyddwr ac athro ysgol From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Owen Glynne Jones (2 Tachwedd, 1867 – 28 Awst, 1899) yn un o Gymry Llundain a daeth i enwogrwydd ar ddiwedd y 19 ganrif fel arloeswr mynydda a dringo creigiau.[1]
Owen Glynne Jones | |
---|---|
Ganwyd | 2 Tachwedd 1867 Paddington |
Bu farw | 28 Awst 1899 Dent Blanche |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dringwr mynyddoedd |
Chwaraeon |
Ganwyd Jones yn Paddington, Llundain, yn blentyn i David Jones, saer ac adeiladydd, a oedd yn hanu o Gaerfyrddin[2] ac Eliza, (née Griffiths) merch o'r Abermaw yn wreiddiol. Er iddo gael ei fagu yn Llundain roedd yn Gymro Cymraeg ac yn aelod ffyddlon o ysgol Sul a chapel Methodistaidd Shirland Road, Llundain. Derbyniodd ei addysg yn y Central Foundation School, Llundain, lle fu'n rhagori yn y gwersi gwyddoniaeth. Ym 1884 aeth i Goleg Technegol Finsbury, lle fu'n dilyn cyrsiau peirianneg fecanyddol, mathemateg, a chemeg. Ym 1886 aeth i adran peirianneg Sefydliad Canolog y City and Guilds yn Ne Kensington. Wedi gorffen ei gwrs yno fe'i penodwyd yn athro cynorthwyol yn adran mathemateg y sefydliad. Ym 1890 derbyniodd gradd BSc Prifysgol Llundain gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, ac ar adeg ei farwolaeth roedd yn paratoi ar gyfer ei DSc.
Mae'r honiad bod Owen yn byw yn y Bermo ar ôl farwolaeth ei rieni sydd i'w gweld yn Nhrafodion y Cymrodorion a'r Bywgraffiadur yn debygol o fod yn anghywir. Er bod ei chwaer fach wedi symud i'r Bermo, roedd Owen wedi dechrau ar ei yrfa fel athro yn Llundain ar adeg farwolaeth ei dad ym 1890[3] Er ei fod wedi gwario yr rhan fwyaf o wyliau ysgol yno ar ôl farwolaeth ei fam ym 1882
Penodwyd Jones yn athro ffiseg yn Ysgol Dinas Llundain, bu hefyd yn ddarlithydd rhan amser yn Sefydliad Goldsmith's. Roedd o hefyd yn ddarlithydd cymdeithasol poblogaidd ym mhob rhan o wledydd Prydain yn adrodd hanes ei anturiaethau yn y mynyddoedd fel arfer yn cael eu darlunio gyda sleidiau llusern hudol.[4]
Dechreuodd diddordeb Jones mewn mynydda ar lethrau Cader Idris a mynyddoedd Ardudwy wrth ymweld â'i deulu yn y Bermo pan oedd yn blentyn. Ef oedd y cyntaf i ddringo Cader Idris o grib ddwyreiniol y Cyfrwy ac ef oedd canfodydd nifer o lwybrau newydd ar yr Wyddfa.[5] Dechreuodd ddringo o ddifri ym 1888, ac roedd ymhlith yr arloeswyr hynny a welodd ddringo creigiau fel camp. Fel dringwr, roedd ganddo arddull dringo athletaidd, ac mae llawer yn ei ystyried yn un o'r "gymnastwyr craig" cyntaf. Er na ddywedodd Jones fawr ddim yn ei ysgrifau am ei dactegau hyfforddi - heblaw am weithio gyda phwysau - mae sawl stori am ei gampau gymnasteg. Er enghraifft honnir ei fod yn gallu gwneud naid dros reilffordd o blatfform i blatfform yn gwisgo ei gêr mynydda.[6]
Ymwelodd â'r Alpau am y tro cyntaf yn haf 1891. Gorchfygodd y rhan fwyaf o'r copaon mawr yn Chamonix, Grindelwald, Zermatt, a Saas Fee. Yn ogystal â dringo yn yr Alpau, bu Jones yn hoff o ddringo mynyddoedd a chreigiau gwledydd Prydain hefyd. Bu'n un o'r cyntaf i boblogeiddio'r syniad o ddringo creigiau'r Hen Ogledd fel camp i'w wneud fel nod annibynnol, yn hytrach na dim ond ymarfer rhagbaratoawl ar gyfer dringo tramor. Sefydlodd a bu'n aelod o bwyllgor Clwb Dringo Prydain.[7]
Ym 1899 roedd Jones a’i ffrind mawr a’i bartner dringo Frederick William Hill (1863-1935), yr ail feistr yn Ysgol Dinas Llundain, yn aros ger Zermatt, ac yn dringo’r copaon lleol. Ar ddydd Llun 28 Awst 1899 aethant gyda thri thywysydd lleol i ddringo crib gorllewinol Dent Blanche, camp a gyflawnwyd dim ond dwywaith o'r blaen. Wedi i'r parti cyrraedd 14,100 troedfedd a dim ond 160 troedfedd o'r brig collodd un o'r tywysyddion ei sylfaen, wrth iddo geisio unioni eu hun rhoddodd straen ar y rhaff, gan godi Jones a'r ddau ddyn y tu ôl iddo oddi ar eu traed. Torrodd y rhaff a phlymiodd Jones a'r tri thywysydd i'w marwolaeth. Hill oedd yr unig un o'r parti i oroesi.[8]
Wedi canfod corff Jones ychydig ddyddiau yn ddiweddarach cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys leol yn Evolena.
Cyhoeddodd Jones lyfr darluniadol Rock Climbing in the English Lake District[9] ym 1897, yn cynnwys llawer o luniau ohono'n dringo mewn llefydd anodd a pheryglus gan y brodyr G D ac A P Abraham. Roedd hefyd yn gyfrannwr i'r cylchgronau Alpine Journal, Climbers' Club Journal, a Cassell's Magazine. Mae hanes marwolaeth Jones yn cael ei adrodd fel un o Ystraeon y Teithiwr yn nofel plant O. M. Edwards Llyfr Nest.[10] Mae Jones yn ymddangos fel y prif gymeriad yn llyfr 2012 Alex Roddie The Only Genuine Jones'[11]; er ei fod yn waith ffuglen yn bennaf mae'n cynnwys cyfeiriadau at ddigwyddiadau go iawn ym mywyd Jones.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.