![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9e/Otto_Neurath.jpg/640px-Otto_Neurath.jpg&w=640&q=50)
Otto Neurath
From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd a chymdeithasegydd o Awstria oedd Otto Neurath (10 Rhagfyr 1882 – 22 Rhagfyr 1945).[1] Dadleuodd dros "Undod y Gwyddorau" a chymwyso athroniaeth er budd gwyddoniaeth. Defnyddiodd positifiaeth resymegol i lunio sail i ddamcaniaeth economaidd ymddygiadol.
Otto Neurath | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Rhagfyr 1882 ![]() Fienna ![]() |
Bu farw | 22 Rhagfyr 1945 ![]() Rhydychen ![]() |
Man preswyl | Fienna ![]() |
Dinasyddiaeth | Awstria ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, athronydd, cymdeithasegydd, statistical graphics ![]() |
Swydd | cyfarwyddwr amgueddfa ![]() |
Prif ddylanwad | Ernst Mach ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria ![]() |
Tad | Wilhelm Neurath ![]() |
Priod | Olga Hahn-Neurath, Marie Neurath, Anna Schapire-Neurath ![]() |
Cafodd ei addysg yn Fienna a Berlin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'n rhan o weriniaeth gomiwnyddol Bafaria, a chafodd ei garcharu am hynny. Dychwelodd i Fienna i ymgyrchu dros ddiwygiadau Marcsaidd, ac yno bu'n rhan o Gylch Fienna. Fe drefnodd cynadleddau rhyngwladol mewn ymdrech i hybu'r cyfathrebu rhwng disgyblaethau'r gwyddorau, a golygodd y gwyddoniadur International Encyclopedia of Unified Science (1937). Symudodd i'r Iseldiroedd ym 1934, ac i Loegr ym 1941 i ffoi o'r Natsïaid.
Ysgrifennodd Neurath ar amryw bynciau, gan gynnwys systemau dosbarthu, cymdeithaseg gymharol, ac economeg.