![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c6/One_Direction_at_the_Logies_Awards_2012.jpg/640px-One_Direction_at_the_Logies_Awards_2012.jpg&w=640&q=50)
One Direction
From Wikipedia, the free encyclopedia
Grŵp pop o fechgyn Saes-Wyddelig sydd wedi'u lleoli yn Llundain ydy One Direction (a adwaenir weithiau fel 1D). Enwau'r aelodau yw Harry Styles, Louis Tomlinson, Niall Horan, Zayne Malik a Liam Payne. Arwyddon nhw gytundeb gyda chwmni recordiau Simon Cowell, Syco, ar ôl i'r grŵp gael ei ffurfio a dod yn drydydd yn y seithfed gyfres o'r gystadleuaeth canu Prydeinig, X Factor yn 2010. Gan ddefnyddio pŵer rhwydweithio cymdeithasol, torrodd tair albwm cyntaf y grŵp, "Up All Night", "Take Me Home" a "Midnight Memories" (2013) nifer o recordiau, gan gyrraedd brig y siartiau yn y mwyafrif o wledydd gorllewinol. Cafodd y senglau "What make you beautiful", "Live while we're young" a "Story Of My Life" lwyddiant masnachol hefyd. Mae sengl arall allan hefyd sef '"Midnight Memories"' ac mae'r sengl yma wedi cael miliynau o wylwyr ar youtube diwrnodau ar ôl iddo gael ei ryddhau.
One Direction | |
![]() | |
Gwreiddiau | Llundain |
---|---|
Cefndir | Grŵp / band |
Math | pop |
Blynyddoedd | 2010 - presennol |
Label | Syco, Columbia |
Aelodau presennol | Harry Styles Niall Horan Liam Payne Louis Tomlinson |
Mae eu llwyddiannau'n cynnwys dau Wobr BRIT a phedair Gwobr Fideo Gerddorol MTV ymysg eraill. Yn ôl Nick Gatfield, cadeirydd a phrif weithredwr Sony Music Entertainment UK, roedd One Direction yn cynrychioli busnes gwerth $50 miliwn ym mis Mehefin 2012. Cyhoeddoedd The Huffington Post 2012 yn "The Year of One Direction".[1] Erbyn Ebrill 2013, amcangyfrifir fod gan y band gyfoeth personol o £25 miliwn rhyngddynt.[2] Pan ryddhawyd "Midnight Memories", daeth One Direction y band cyntaf mewn 60 mlynedd i gael eu tri albwm cyntaf i gyrraedd brig y siart albymau Americanaidd. Yn ogystal â hyn, roedd yr albwm yn llwyddiant fyd-eang, gan gyrraedd #1 yn Siart Albymau'r DU a'r US Billboard 200. Dyma hefyd oedd yr albwm a werthodd gyflymaf yn y DU yn 2013.