From Wikipedia, the free encyclopedia
Teyrn Bwlgaria o 814 tan 831 oedd Omurtag neu Omortag (Bwlgareg Омуртаг). Yn ystod ei deyrnasiad ehangodd diriogaeth Bwlgaria gan ychwanegu rhannau mawr o Facedonia, Transylvania a de Pannonia at ei deyrnas. Roedd y buddugoliaethau hyn yn dwyn y dinasoedd pwysig, Prespa, Ohrid a Belgrâd o dan reolaeth Bwlgaria. Bu'n gweithio hefyd i ddatblygu system cyfreithiau'r wlad ac i ailadeiladu dinas Pliska ar ôl iddi losgi yn 811.
Khaniaid, tsariaid, tywysogion a brenhinoedd Bwlgaria |
Teyrnas gyntaf Ail deyrnas Trydedd deyrnas |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.