Tsar Bwlgaria o 1197 hyd 1207 oedd Kaloyan, tsar Bwlgaria. Roedd yn drydydd teyrn Ail Deyrnas Bwlgaria, ar ôl ei frodyr, Ivan Asen I a Pedr II.
Kaloyan, tsar Bwlgaria | |
---|---|
Ganwyd | 1168 |
Bu farw | 8 Hydref 1207, Awst 1207 Thessaloníci |
Dinasyddiaeth | Second Bulgarian Empire |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Tsar of Bulgaria |
Tad | unknown (?) |
Priod | Anna (Anisia) |
Plant | Maria of Bulgaria, Latin Empress, Maria (?) |
Llinach | Asen dynasty |
llofnod | |
Daeth â sefydlogrwydd i'r deyrnas, oedd wedi cael ei rhyddhau o reolaeth Bysantaidd ychydig o flynyddoed ynghynt. Arweiniodd gyrchoedd llwyddiannus yn erbyn Byzantium, gan gipio Varna ar ôl gwarchae tridiau ar 24 Mawrth 1201. Gwelir ei bolisi gwrth-Bysantaidd hefyd yn ei berthnasoedd â'r Eglwys Orllewinol. Cyrhaeddodd cennad o'r Pab Innocentius III Fwlgaria ym 1204. Coronwyd Kaloyan ganddo fel brenin Bwlgaria a Wallachia, ac eneinio Archesgob Vasily o Tarnovo fel pennaeth eglwys y Bwlgariaid a'r Vlachiaid. Cydnabu Kaloyan oruchafiaeth Eglwys Rhufain. Ar ôl i Gaergystennin gael ei meddiannu gan Groesgadwyr y Bedwaredd Groesgad ym 1204, cymerodd Kaloyan reolaeth dros Adrianopolis, dinas Roeg nad oedd wedi cwymo i'r Croesgadwyr. Amddifynnodd Kaloyan y ddinas yn llwyddiannus, gan drechu'r Croesgadwyr mewn brwydr ger y ddinas ar 14 Ebrill 1205. Daliodd y lluoedd Bwlgariadd yr Ymerawdr Baldwin I, a fu farw ar 11 Mehefin mewn dalfa yn Veliko Tarnovo.
Enillodd Kaloyan fuddugoliaethau eraill yn erbyn yr Ymerodraeth Ladin, gan gipio Serres a Philippopolis (Plovdiv) a thiriogaeth arall yn Thracia a Macedonia. Llofruddiwyd Kaloyan gan aelodau o'i fyddin ei hun yn ystod gwachae Thessaloniki yn Hydref 1207.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.