![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fb/%25D0%259B%25D0%25B0%25D0%25B2%25D1%2580%25D0%25B0.jpg/640px-%25D0%259B%25D0%25B0%25D0%25B2%25D1%2580%25D0%25B0.jpg&w=640&q=50)
Ogof-Fynachlog Kyiv
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mynachlog hanesyddol yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol a leolir yn Kyiv, prifddinas Wcráin, yw Ogof-Fynachlog Kyiv neu Kyiv-Pechersk Lavra (Wcreineg: Києво-Печерська лавра). Hwn yw un o'r mynachlogydd mwyaf a hynaf yn Wcráin.
![]() Trem ar Ogof-Fynachlog Kyiv. | |
Math | Eastern Orthodox monastery ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Kyiv: Cadeirlan Sviatoi Sofii ac adeiladau mynachlogol cysylltiedig, Lavra Kyiv-Pechersk ![]() |
Sir | Kyiv ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 29 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 50.4322°N 30.5622°E ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | Ukrainian Baroque ![]() |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Saint Anthony of Kyiv ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Kyiv Eparchy ![]() |
Sefydlwyd yr ogof-fynachlog ei hun ym 1051, ac yn yr Oesoedd Canol datblygodd yn un o brif ganolfannau'r Eglwys Uniongred yn Nwyrain Ewrop. Mae safle bresennol y mynachlog, ar 22 hectar o dir, yn cynnwys mwy na 80 o adeiladau, gan gynnwys sawl amgueddfa, er enghraifft Amgueddfa Trysorau Hanesyddol Wcráin. Heddiw, rhennir awdurdod dros y safle gan y wladwriaeth, ar ffurf Gwarchodfa Hanesyddol a Diwylliannol Genedlaethol Kyiv-Pechersk, ac Eglwys Uniongred Wcráin (dan Batriarchaeth Moscfa). Lleolir yma breswylfa swyddogol Archesgob Kyiv ac Wcráin Oll.
Cofrestrir Ogof-Fynachlog Kyiv, ar y cyd ag Eglwys Gadeiriol y Santes Soffia, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.[1]