Newport, Swydd Amwythig
tref yn Swydd Amwythig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref farchnad a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Newport.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Telford a Wrekin. Saif tua 6 milltir i'r gogledd o Telford yn agos i'r ffin gyda Swydd Stafford.
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Math | tref, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Newport |
Poblogaeth | 11,387 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Edgmond |
Cyfesurynnau | 52.7691°N 2.3787°W |
Cod OS | SJ745191 |
Cod post | TF10 |
Cau
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Newport.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 11,387.[2]
Mae pentrefi Church Aston, Chetwynd a Longford i'r de o Newport, yn ffinio â'r dref, ond maent yn rhan o blwyf arall, sef Edgemond. Er bod Edgemond yn rhagddyddio Newport, mae wedi dod yn rhan o'r dref a chaiff ei gwahanu ohoni gan fryn Cheney yn unig.