Neil Kinnock

gwleidydd (1942- ) From Wikipedia, the free encyclopedia

Neil Kinnock

Mae Neil Gordon Kinnock (ganwyd 28 Mawrth 1942 yn Nhredegar), yn wleidydd o Gymro, arweinydd y Blaid Lafur 1983-1992. Roedd'n briod â Glenys Kinnock.

Ffeithiau sydyn Llais, Ganwyd ...
Neil Kinnock
Thumb
LlaisPress conference by Neil Kinnock on the update of the EC administrative reform process.ogg 
Ganwyd28 Mawrth 1942 
Tredegar 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd 
SwyddVice-President of the European Commission, European Commissioner for Transport, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd y Blaid Lafur, Shadow Secretary of State for Education, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi 
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur 
PriodGlenys Kinnock 
PlantStephen Kinnock, Rachel Kinnock 
Cau

Gyrfa

Roedd yn un o'r prif ymgyrchwyr yn erbyn polisi'r Blaid Lafur adeg refferendwm 1979 i gael Cynulliad i Gymru. Fel prif arweinydd y "Gang o Chwech", gyda'r ASau Llafur Cymreig Leo Abse, Ifor Davies, Donald Anderson, Alfred Evans a Ioan Evans, chwaraeodd ran amlwg iawn yn yr ymgyrch dros bleidlais nacaol a'r canlyniad fu i nifer o bleidleiswyr Llafur naill ai beidio â phleidleisio neu bleidleisio yn erbyn cael Cynulliad.

Bu Kinnock yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg ar hyd ei yrfa. Cyhuddodd un o ysgolion Gwynedd o rwystro plentyn rhag mynd i'r toiled am nad oedd yn gallu gofyn yn y Gymraeg. Dangosodd ymchwiliad bod y cyhuddiad yn gwbwl ddi-sail. Cred llawer ei fod wedi bradychu'r glowyr yn ystod Streic Fawr y Glowyr (1984-5) a arweiniodd at danseilio'r diwydiant glo, gan chwalu nifer fawr o gymunedau.

Er gwaethaf ymrwymiad Kinnock i'r wladwriaeth Brydeinig a'i wrthwynebiad ffyrnig i unrhyw fath o genedlaetholdeb Cymreig, pan oedd yn arweinydd ei blaid cafodd ei ddilorni'n gyson gan y wasg yn Lloegr am ei fod yn Gymro. Y disgrifiad enwocaf ohono gan y wasg tabloid oedd "Welsh windbag".

Roedd yn is-arlywydd Comisiwn Prodi yn Senedd Ewrop o 1999 hyd 2004. Fe'i hadnabyddir bellach fel 'Baron Kinnock' ac mae ganddo sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Llundain.

Mae'n Llywydd Prifysgol Caerdydd.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.