![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/53/Natalie_Portman_2023.jpg/640px-Natalie_Portman_2023.jpg&w=640&q=50)
Natalie Portman
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Jeriwsalem yn 1981 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Natalie Portman (Hebraeg: נטלי פורטמן; ganed Neta-Lee Hershlag 9 Mehefin 1981) yn actores Americanaidd-Iddewig. Dechreuodd Portman ei gyrfa actio yn ystod y 1990au, gan wrthod y cyfle i fod yn fodel pan yn blentyn er mwyn bod yn actores. Cafodd ei rôl gyntaf yn y ffilm annibynnol Léon (1994). Daeth i adnabyddiaeth pan gafodd ran Padmé Amidala yn y ffilmiau Star Wars. Dywedodd Portman unwaith y byddai'n well ganddi fod yn ddeallus nag un seren ym myd ffilmiau er iddi gwblhau ei gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Harvard tra'r oedd yn gweithio ar y ffilmiau Star Wars.
Natalie Portman | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Natalie Herschlag ![]() 9 Mehefin 1981 ![]() Jeriwsalem ![]() |
Man preswyl | Washington, Connecticut, Jericho, Lowell House, Paris, Los Angeles, Jeriwsalem ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Israel ![]() |
Addysg | gradd baglor ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor llwyfan, actor teledu, actor ![]() |
Adnabyddus am | Star Wars prequel trilogy, Léon, Black Swan ![]() |
Taldra | 165 centimetr ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Priod | Benjamin Millepied ![]() |
Plant | Aleph Millepied, Amalia Millepied ![]() |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Leading Role, Gwobr yr Ysbryd Annibynnol i'r Brif Actores, Golden Globes, Gwobr 'FiLM iNDEPENDENT', Gwobr Saturn, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn ![]() |
llofnod | |
![]() |
Yn 2001, perfformiodd Portman mewn cynhyrchiad Theatr Gyhoeddus Dinas Efrog Newydd o "The Seagull" gan Chekhov, pan berfformiodd gyda Meryl Streep, Kevin Kline, a Philip Seymour Hoffman. Yn 2005, derbyniodd Portman Wobr Golden Globe fel yr Actores Gefnogol Orau yn y ddrama Closer.