![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/ba/Natalie_Bennett-IMG_4086.jpg/640px-Natalie_Bennett-IMG_4086.jpg&w=640&q=50)
Natalie Bennett
From Wikipedia, the free encyclopedia
Newyddiadurwraig a gwleidydd o Awstralia yw Natalie Louise Bennett (ganwyd 10 Chwefror 1966), sydd bellach yn arwain y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr. Fe'i hetholwyd i arwain Plaid Werdd Cymru a Lloegr ar 3 Medi 2012.[1][2]
Ffeithiau sydyn Arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr, Dirprwy ...
Natalie Bennett | |
---|---|
![]() | |
Arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 3 Medi 2012 | |
Dirprwy | Will Duckworth Amelia Womack Shahrar Ali |
Rhagflaenwyd gan | Caroline Lucas |
Manylion personol | |
Ganwyd | (1966-02-10) 10 Chwefror 1966 (58 oed) Sydney, Awstralia |
Plaid wleidyddol | Plaid Werdd Cymru a Lloegr |
Cymar | Jim Jepps |
Alma mater | Prifysgol Sydney Prifysgol New England Prifysgol Caerlŷr |
Cau
Mae Bennett wedi dweud ei bod yn ffeminist ers ei phlentyndod.[3] Sefydlodd grŵp merched y Blaid Werdd a bu'n weithgar gyda'r Fawcett Society rhwng 2010 a 2014. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn ecoleg a chynaladwyedd ers iddi astudio amaethyddiaeth ar gyfer ei gradd.[4] Mae hefyd o blaid diddymu Brenhiniaeth Prydain.[5]