Nanoddefnyddiau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae nanodefnyddiau (neu weithiau 'nano-ddeunyddiau') yn disgrifio deunyddiau lle mae un uned ohono (mewn o leiaf un dimensiwn) rhwng 1 a 100 nm.[1]
Ffeithiau sydyn Math ...
Math | deunydd, sylwedd cemegol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae ymchwil i nanoddeunyddiau yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar nanodechnoleg, gan ysgogi datblygiadau mewn mesureg deunyddiau a synthesis, sydd wedi'u datblygu i gefnogi ymchwil micro-wneuthuriad (microfabrication). Yn aml mae gan ddeunyddiau sydd â strwythur ar y nanoraddfa briodweddau optegol, electronig, thermogorfforol neu fecanyddol unigryw.[2][3][4]
Mae nanoddeunyddiau yn cael eu masnacheiddio fwyfwy erbyn heddiw [5] ac yn dechrau dod i'r amlwg fel nwyddau.[6]