Mwgwd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwrthrych sydd gan amlaf yn cael ei wisgo ar yr wyneb ar gyfer ei amddiffyn, fel cuddwisg, neu ar gyfer perfformiad neu adloniant yw mwgwd. Mae mygydau wedi'u defnyddio ers y cynfyd at ddibenion seremonïol ac ymarferol. Maen nhw fel arfer yn cael eu gwisgo ar yr wyned, er eu bod yn gallu cael eu gosod ar rannau eraill o'r corff er mwyn creu effaith.
Ffeithiau sydyn Math ...
Math | dillad, arteffact, gwaith celf, arteffact archaeolegol, cynhwysydd |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mewn rhannau o Awstralia, mae mygydau totem enfawr yn gorchuddio'r corff, tra bod menywod Inuit yn defnyddio mygydau ar y bysedd wrth adrodd stori a dawnsio.[1]