mynydd (628.3m) yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Moel Penamnen; cyfeiriad grid SH716483. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Blaenau Ffestiniog ac i'r dwyrain o'r briffordd A470 a Bwlch y Gerddinen. Saif Llynnau Barlwyd i'r gorllewin o'r copa, ac mae ffîn Parc Cenedlaethol Eryri yn mynd dros y copa. I'r gogledd-ddwyrain mae Cwm Penamnen yn ymestyn tua'r gogledd i gyfeiriad Dolwyddelan. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 490metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 623 metr |
Cyfesurynnau | 53.0166°N 3.9155°W |
Cod OS | SH716483 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 138 metr |
Rhiant gopa | Manod Mawr |
Cadwyn fynydd | Y Moelwynion |
Gellir ei ddringo o Fwlch y Gerddinen, dros gopa is Moel Farlwyd, neu o Gwm Penamnen. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 623m (2044tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.