Mock the Week
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Mock the Week yn gêm banel bynciol Brydeinig a gyflwynir gan Dara Ó Briain. Cynhwysir comedi ar ei sefyll yn nifer o rowndiau'r gêm, gyda'r chwaraewyr yn paratoi atebion sy'n ymwneud â phynciau annisgwyl.
Mock the Week | |
---|---|
Genre | Comedi |
Crëwyd gan | Dan Patterson Mark Leveson |
Cyflwynwyd gan | Dara Ó Briain |
Serennu | Hugh Dennis Frankie Boyle Rory Bremner Andy Parsons Russell Howard Chris Addison |
Cyfansoddwr y thema | "News of the World" gan The Jam |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 15 |
Nifer penodau | 151 (23 Mehefin, 2016) |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Dan Patterson Mark Leveson Ewan Phillips Ruth Wallace |
Amser rhedeg | 29 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Angst Productions |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC Two |
Rhediad cyntaf yn | 5 Mehefin 2005 - presennol |
Gwneir y rhaglen gan y cwmni cynhyrchi annibynnol Angst Productions ac fe'i darlledwyd ar BBC Two am y tro cyntaf ar 5 Mehefin, 2005. Fe'i chrëwyd gan Dan Patterson a Mark Leveson, pâr sydd hefyd yn gyfrifol am y sioe gêm gomedi Whose Line Is It Anyway?[1] Cerddoriaeth thema'r rhaglen yw'r sengl 1978 "News of the World" gan The Jam.[2] Darlledir hen benodau ar Dave, rhywbeth y mae'r panelwyr yn sôn yn rheolaidd amdano ar y rhaglen. Denodd benodau 2007 3.5 miliwn o wylwyr.[3]
Cyflwynir y rhaglen gan Dara Ó Briain ac mae dau banel gyda thri chwaraewr yr un. Yn bresennol, cynhwysa panel y chwith Hugh Dennis[4], yr unig banelydd parhaol presennol, a dau banelydd gwadd, yn ogystal â thri phanelydd gwadd ar banel y dde. Cynhwysa cyn-banelwyr parhaol, Frankie Boyle[5][6] a Chris Addison[7] ar banel y chwith, a Rory Bremner, Russell Howard[8] ac Andy Parsons[9] ar banel y dde.