Mae midasolam, sy’n cael ei farchnata dan yr enw masnachol Versed ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer anesthesia, tawelyddu ar gyfer triniaethau, anawsterau cysgu, a chynnwrf difrifol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₈H₁₃ClFN₃. Mae midasolam yn gynhwysyn actif yn Buccolam. .[2]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Midasolam
Thumb
Midazolam
Thumb
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathbenzodiazepine drug Edit this on Wikidata
Màs325.078 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₈h₁₃clfn₃ edit this on wikidata
Clefydau i'w trinAnhwylder gorbryder, dementia cynyrfiadol, cyflwr epileptig edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d edit this on wikidata
GwneuthurwrPfizer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Sgil effeithiau

Gall sgil effeithiau gynnwys gostyngiad mewn ymdrechion i anadlu, pwysedd gwaed isel a chysgadrwydd.[2] Mae'n bosibl y bydd goddefgarwch i'w heffeithiau a symptomau diddyfnu o roi'r gorau i'r cyffur yn dilyn defnydd hirdymor. Gall effeithiau paradocs, megis gweithgaredd uwch, ddigwydd yn enwedig ymhlith plant a phobl hŷn[3]. Mae tystiolaeth o risg pan gaiff ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ond nid oes tystiolaeth o niwed gydag un dos yn ystod bwydo ar y fron[4][5]. Mae'n perthyn i'r dosbarth bensodiasepin ac mae'n gweithio trwy'r niwrodrosglwyddydd GABA.[2]

Hanes

Dechreuwyd defnyddio midazolam gyntaf ym 1976[6]. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[7]. Mae midazolam ar gael fel meddyginiaeth generig ac nid yw'n ddrud iawn[5]. Mae'r gost gyfanwerthu ffiol yn y byd datblygol tua 0.35 doller UDA[8]. Mewn llawer o wledydd, mae'n sylwedd rheoledig[2].

Defnydd meddygol

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • anhwylder gorbryder
  • dementia cynyrfiadol
  • cyflwr epileptig
  • Mae'n gweithio trwy ysgogi cysgu, lleihau pryder, ac achosi colli'r gallu i greu atgofion newydd.[2] Mae hefyd yn cael ei ddefnyddiol ar gyfer trin ffitiau[9]. Gall midazolam gael ei weini trwy'r genau, yn fewnwythiennol, trwy chwistrelliad i mewn i gyhyr, wedi'i chwistrellu i'r trwyn, neu yn y boch.[2][9] Pan gaiff ei roi yn fewnwythiennol, fel rheol mae'n dechrau gweithio o fewn pum munud; pan gaiff ei chwistrellu i mewn i gyhyr, gall gymryd pymtheg munud i ddechrau gweithio.[2] Mae effeithiau'n para rhwng un a chwe awr[2].

    Enwau

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Midasolam, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Versed®
  • Dormicum®
  • Cyfeiriadau

    Wikiwand in your browser!

    Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

    Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

    Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.