![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b5/Flag_of_Michigan.svg/langcy-640px-Flag_of_Michigan.svg.png&w=640&q=50)
Michigan
talaith yn Unol Daleithiau America / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Michigan yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, a amgylchynir o'r gorllewin i'r dwyrain gan rai o'r Llynnoedd Mawr; Llyn Superior, Llyn Huron, Llyn Michigan, Llyn Erie a Llyn St. Clair. Fe'i hymrennir gan Culfor Mackinac yn ddwy ardal ar wahân: y Gorynys Isaf yn y de (iseldiroedd) a'r Gorynys Uchaf yn y gogledd (islediroedd yn y dwyrain ac ucheldiroedd yn y gorllewin). Mae trwch y boblogaeth yn byw yn y Gorynys Isaf. Y Ffrancod oedd yr Ewropeaidd cyntaf i archwilio'r ardal, yn yr 17g, ac arhosodd dan reolaeth Ffrainc hyd 1763 pan y'i cipiwyd gan Brydain Fawr a'i hychwanegu i diriogaeth Canada. Daeth i feddiant yr Unol Daleithiau yn 1783 a daeth yn dalaith yn 1837. Lansing yw'r brifddinas. Tarddia enw'r dalaith o'r addasiad Ffrengig o'r term Ojibwe, "mishigma", sydd golygu "dwr mawr" neu "llyn mawr".
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Pure Michigan ![]() |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau ![]() |
Enwyd ar ôl | Y Llynnoedd Mawr ![]() |
Prifddinas | Lansing ![]() |
Poblogaeth | 10,077,331 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | My Michigan ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Gretchen Whitmer ![]() |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, Cylchfa Amser Canolog, America/Efrog Newydd, UTC−05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Shiga, Saga ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Midwestern United States, taleithiau cyfagos UDA ![]() |
Sir | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 250,493 km² ![]() |
Uwch y môr | 275 metr ![]() |
Gerllaw | Llyn Michigan, Llyn Superior, Llyn Erie, Llyn Huron, Llyn St. Clair, Afon Detroit, Afon St. Clair, Afon St. Marys ![]() |
Yn ffinio gyda | Wisconsin, Ohio, Indiana, Ontario, Minnesota, Illinois ![]() |
Cyfesurynnau | 44.34°N 85.58°W ![]() |
US-MI ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Michigan ![]() |
Corff deddfwriaethol | Michigan Legislature ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Michigan ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Gretchen Whitmer ![]() |
![]() | |
Michigan yw'r wythfed talaith mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau. Mae ganddi'r arfordir dwr ffres hiraf o unrhyw îs-adran wleidyddol yn y byd, am ei bod yn ffinio â phedwar o'r Llynnoedd Mawr yn ogystal â Llyn St Clair. Yn 2005, roedd Michigan yn rhif 3 o ran y nifer o gychod adloniannol a oedd wedi'u cofrestru yno, ar ôl Califfornia a Fflorida. Mae gan Michigan 64,980 o lynnoedd mewndirol. Pan fo person yn y dalaith, nid ydynt yn fwy na chwech milltir (10 km) o ffynhonnell o ddwr naturiol, neu'n fwy na 87.2 milltir (137 km) o arfordir y Llynnoedd Mawr.
Michigan yw'r unig dalaith sy'n cynnwys dau benrhyn yn unig. Weithiau, cyfeirir at y Penrhyn Isaf fel "y faneg" oherwydd ei siap. Mae'r Penrhyn Uchaf wedi cael ei wahanu o'r Penrhyn Isaf gan Gulfor Mackinac, sianel pum milltir (8 km) sy'n cyfuno Llyn Huron i Lyn Michigan. Mae'r Penrhyn Uchaf yn bwysig i'r dalaith am resymau economaidd oherwydd y twristiaid a'r adnoddau naturiol sydd yno.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/50/Michigan_in_United_States.svg/640px-Michigan_in_United_States.svg.png)