Prifardd, darlithwraig ac awdures o Gymraes From Wikipedia, the free encyclopedia
Darlithydd a bardd o Gymraes yw Mererid Hopwood (ganwyd 18 Chwefror 1964). Hi oedd y ferch gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwnaeth hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.[1] Mae'n brifardd dwbl ac yn brif lenor ac mae galw mawr amdani i ddarlithio a chynnal gweithdai barddoni.
Mererid Hopwood | |
---|---|
Ganwyd | Elin Mererid Hopwood 18 Chwefror 1964 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyflwynydd teledu, ysgrifennwr, darlithydd |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Fe'i ganwyd a magwyd yng Nghaerdydd ond roedd ei theulu yn hannu o Bontiago, Sir Benfro. Mynychodd ysgolion Bryntaf a Llanhari. Graddiodd mewn Almaeneg a Sbaeneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac aeth ymlaen i gwblhau doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.[2]
Cychwynnodd ddarlithio yn adrannau'r Gymraeg ac Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn Athro Ieithoedd a'r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2005.
Yn Hydref 2020 cafodd ei phenodi'n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ddechrau yn y swydd ar ddechrau mis Ionawr 2021.[3]
Ym Mehefin 2023 cyhoeddwyd mai Hopwood fydd Archdderwydd Gorsedd y Beirdd am y cyfnod 2024-2027.[4] Trosglwyddwyd yr awenau iddi gan Myrddin ap Dafydd ar 27 Ebrill 2024 yn seremoni gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam 2025.[5]
Mae'n byw yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin gyda'i gŵr Martin ac mae ganddynt tri plentyn - Hanna, Miriam a Llewelyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.